Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'r ymdriniaeth ar ddyn a chymdeithas yn werthfawr dros ben. Yr oedd angen dweud nad yw Calfin yn dysgu bod y ddelw ddwyfol wedi ei llwyr ddinistrio mewn dyn, a'i fod yn llawer mwy cymedrol na Barth yn hyn. Ond prin y gellir cytuno bod Calfin wrth fawrygu Duw yn anrhydeddu dyn bob amser. Yn y bennod ar yr Eglwys, ceir amlinelliad clir o ddysg Calfin ar y pwnc, gan gynnwys ymdriniaeth ar y Sacramentau, a gwerthfawrogiad o'r drefn Bresbyteraidd a'i dylanwad eang ar ein gwareiddiad. A diddorol yw darllen am ymdrechion Calfin i uno'r Eglwysi. Aeth mor bell â chymell uno'r Eglwysi Protestannaidd ag Eglwys Rufain. Byddai Calfin yn sicr o fod yn ae!od blaenllaw o Gyngor Eglwysi'r Byd pe byddai'n fyw heddiw Y mae gan Mr. Tudor bennod hefyd ar Etholedigaeth, a chais brofi nad yw'r athrawiaeth mor bwysig yn ei ddiwinyddiaeth ag y tyb rhai. Nid Calfin a'i lluniodd, ac ychydig o le a roddir iddi yn ei weithiau. Ac eto, anodd gweld sut y gallai beidio â bod yn bwysig yn ngolwg Calfin, gyda'i syniadau am Benarglwyddiaeth Duw ac am natur yr iachawdwr- iaeth. Ond fel y dywed Mr. Tudor, nid oes raid inni ddilyn Calfin ym mhob peth. Ceir llawer o bethau eraill gwerthfawr yn y llyfr, megis y pwyslais ar athrawiaeth Calfin am yr Ysbryd Glân mewn perthynas â ffydd ac â dat- guddiad yr Ysgrythurau. Dyma, i mi, un o gyfraniadau pwysicaf Calfin i ddiwinyddiaeth, a da fyddai inni roddi mwy o sylw iddo. Ceir cyflwyniad caredig i'r gyfrol gan J. D. Vernon Lewis, a gallwn ategu'n galonnog ei gymeradwyaeth i'r llyfr fel un cymwys i gylchoedd myfyr o bob math. HARRI Williams. Bangor. NA\Y WFFT. Gan Pennar Davics. Cyfres Canu Cyfoes. Gwasg Gee, 1957, tt. 44. Pris 3/6. Dywedodd Mr. Saunders Lewis yn Y Fflam," wrth adolygu Cinio'r Cythraul, y casgliad cyntaf o farddoniaeth a gyhoeddodd yr awdur hwn, ei fod yn gobeithio y byddai'r Dr. Pennar Davies yn rhoi cyfle a hamdden i Davies Aberpennar i lenydda yn ôl mesur ei addewid. Ni ellid meddwl am faich beunyddiol trymach na bod yn brifathro coleg preswyl fel y mae'r Dr. Pennar Davies yn Aberhonddu, canys rhaid iddo gyflawni holl ddyletswydd- au athro a phregethwr yn ogystal. Ond parhaodd ffrwd ei greadigaethau mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Sylwn ennyd ar egni'r bardd. Ar ôl Cinioìr Cythraul daeth cyfraniad y bardd i Cerddi Cadwgan. Cyfrannodd hefyd i flodeugerdd Mr. Keidrych Rhys. Ac yn awr wele Naw Wfft. Gyda llaw, mae cam-brint doniol yn y Rhagair sonnir am Cinio'r Cythraul fel Cerddi'r Cythraul. Bu'r awdur yn rhy ostyngedig, hwyrach, i gywiro'r cyfeiriad satanaidd ato ef ei hun. Sonia yn y rhagair am ei argyhoeddiad fod yn rhaid hyd yn oed wrth gyfansoddi barddoniaeth, ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.