Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Addoli. Mae gwir angen heddiw am bwysleisio gwerth a phwysigrwydd addoliad. Byw yr ydym mewn dyddiau pan yw addoli yn cael ei ddibrisio a'i esgeuluso'n fawr. Nid yw ein haddoldai cyn llawn- ed ag y cofir hwynt, ac y mae hynny nid yn unig oherwydd y llu mawr na pherthynant i unrhyw eglwys, eithr am fod cynifer o'r aelodau yn esgeuluso'r Tŷ a'i Ordinhadau i'r fath raddau fel mai coegni iddynt hwy a fyddai geiriau'r Salmydd: Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dv'r Arglwydd." O'r blaen ychydig mewn cymhariaeth oedd y rhai a esgeulusai yr arfer addolgar. Ni cheid cynifer â heddiw yn gofyn yn am- heugar paham y dylid addoli. Cydnabyddent fod addoliad yn rhan o'r fframwaith gymdeithasol a diwylliadol, ac ufuddhaent i alwad yr Eglwys ac i orchymyn yr Ysgrythurau. Ni ddadleu- ent ond ynghylch y ffordd briodol a'r ffordd orau i gyflawni'r act. Ac eto, yr act a esgeulusir i'r fath raddau, ar hyn o bryd, yw'r act fwyaf y gall neb fyth ei chyflawni, sef addoli'r Goruchaf Dduw, plygu ein gliniau i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Act mor fawr ydyw fel y geilw am ddyn yn ei gyfan rwydd i'w chyflawni'n iawn. Hawlia'r holl galon, yr holl enaid, yr holl feddwl a'r holl nerth. Am hynny, nid yw'n bosibl addoli ond un gwrthrych yn unig. Mae addoli yn gydnaws â greddf y natur ddynol. Un o'r pethau cyntaf a gofnodir am ddyn yw ei fod yn addoli. Er yn gynnar iawn bu'n codi ei allorau ac yn adeiladu ei demlau, ac i lawr drwy'r oesau ni pheidiodd ag addoli. Ac fel bywyd o addoli y darlunir bywyd perffaith y nefoedd ei hun. Fel y dywed y Llyfr Gweddi Gyffredin, Gan hynny, gydag Angylion ac Arch- angylion, a chyda holl gwmpeini nef, y moliannwn ac y mawr- hawn dy ogoneddus Enw." Dyma hefyd briod waith yr Eglwys ar y ddaear. Yn gyntaf ac o flaen popeth, y mae hi yn bod er mwyn addoli Duw; a hi yw'r unig gymdeithas sydd ag iddi'r diben aruchel hwn fel ei diben blaenaf ac eithaf. Cymdeithas ydyw o wir addolwyr y Tad, ac i'r mesur y paid ag addoli fe baid Cyfrol CXIII. Rhif 487. Ebrill, 1958.