Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Na Fawl ond y Nefolion. WRTH fynd trwy'r maes llafur gosodedig, daw i ran athro ysgol astudio gweithiau cymysg iawn o bryd i bryd. Yn wir, tueddir ef i holi weithiau pwy sy'n dewis y llyfrau gosod, a phaham y dewisir aml i gyfrol Ar y llaw arall, caiff "siom o'r ochr orau o ymgydnabod â phethau na thalodd lawer o sylw iddynt cyn eu cael ar ei lwybr. A phan, dro'n ôl, y gosodwyd arnom astudio dwy o awdlau "cadeiriol" y chwarter canrif diwethaf, go gymysg oedd y teimladau a'r rhagolygon. Un o'r awdlau hynny yw Azvdl Foìiant i Amaethwr, awdl a enill- odd Gadair Eisteddfod Aberpennar yn 1946, i Geraint Bowen. Yr oeddwn wedi bras-ddarllen yr awdl hon pan gyhoeddwyd hi, ond heb sylwi llawer arni rhagor na'i bod yn amlwg yn fyrrach nag awdlau "cadeiriol" yn gyffredinol, a hod cryn gamp ar ei chynllun a'i hodlau. Eithr wedi mynd ati'r eil- waith, sylweddolais bod ynddi rywbeth anghynefin, bod "rhyw geiliog newydd yn canu" a her yn ei lais, yn yr awdl hon. Rhyw bwt tila, meddwn wrth gychwyn arni,—"tri grwn a dwy dalar" yn iaith un o wŷr yr aradr geffylan-a "chymer hi fawr o dro i ni ei 'gwnettd' hi." Ond o aros yn ei chwmni, cynydda'r parch a'r edmygedd; synnir dyn i ddechrau gan gywreinrwydd mesur ol a chymesurol y gerdd. Wedi cychwyn â chadwyn o ddeg englyn o foliant gan y bardd ei hun, fel petai, i'r amaethwr, daw deuddeg pennill unodl ar fesur Gzvazvdodyn Byr lIe mae'r ddaear yn moli'r "gwrthrych"; cawn englyn wedyn i'n harwain i gym- lilethdod traws-gyweiriol y trydydd caniad, lle clywn gân fawl yr angylion i'r Creawdwr. Mae i'r caniad hwn un pennill ar ddeg pedair-llinell unodl y gellir eu darllen fel Cyhydeddau Hir neu Doddeidiau dwbl. Ac i gloi dychwelwn i symlrwydd yr englyn, yr union englyn ag a agorodd y gân, ond bod hwnnw bellach wedi ei drawsnewid, ac wedi magu ynddo'i hun am- ge'nach a helaethach ystyr ac arwyddocâd. Yn wir, ni all dyn lai na meddwl am gynllun sonata, a hynny yn y modd y dech- reua'n syml gan fynd yn fwy-fwy cymhleth ei mesur a'i geirfa a chyfoeth ei syniadau wrth fynd rhagddi; ac yna ddychwelyd