Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Offeiriad yn erbyn Pab Argyfwng Lamennais. Sain y clychau yn galw'r ffyddloniaid yn úl at hen Eglwys eu cyndadau—dyna arwydd clywadwy i bob Ffrancwr led-led y wlad fod hunllef y Chwyldroad ar ben. Pa lais allai fod yn fwy priodol i'r gwaith cysegredig hwn ? Llais pur, wedi ei sancteiddio gan ganrifoedd o wasanaeth defosiynol, meddai Chateaubriand yn ei Genie dn Christianisme. "Ar wahân i lais nefolaidd y clych, dim ond llais tyner plentyn sydd yn deilwng i'n galw i addoldy Duw." Wrth deimlo bod ei.dasg genhadol yn gyiiawn, cytìwynodd Cliateaubriand yr Eglwys i ofal Bonaparte. "Y mae ein pobl yn edrych atoch chwi, gan gredu y byddwch yn seilio eich llyw- odraeth ar graig y grefydd Gristionogol, ac yn amddiffyn yr allorau lIe mae deng miliwn ar hugain ohonynt yn gweddïo trosoch." O safbwynt gwleidyddol yr oedd y Prif Gonswl yn edrych ar bethau, a rhan o'i bolisi oedd sefydlu'r Eglwys newydd yn gadarn er mwyn ei gwneud yn ateg gref i'r llywodraeth. Ond gwaith anodd oedd sefydlu unrhyw beth yn sgîl tymestl y Chwyldroad. Yr oedd nerthoedd newydd, pwerau dieithr, wedi eu gollwng yn rhydd, a phwy allai ffrwyno'r grymusterau hyn? Mab i'r Chwyldroad oedd Napoleon Bonaparte ei hun. Mab i'r Chwyldroad hefyd oedd Félicité de la Mennais. Conglfaen y drefn newydd yng nghynllun Bonaparte oedd Concordat rhyngddo a'r Pab yn 1801. Cytundeb anesmwyth oedd hwn, ac o'r dechrau yr oedd yn eglur fod y Conswl am fod ar y blaen yn y bartneriaeth. Er iddo gydnabod Eglwys Rufain yn brif eglwys Ffrainc, yr oedd lIe i fod i ganghennau eraill o'r eglwys hefyd. Yr oedd gan y Conswl syniadau ar rai pethau fel priodas ac ysgariad nad oeddent wrth fodd y Pab, ond bu'n rhaid i'r Pab eu derbyn. Yr oedd y Conswl ifanc gorhyderus yn ymddwyn yn bur haerllug tuag at yr hen bab Pius VII. Gorfododd y Pab i ddyfod i'w goroniad fel ym- erawdwr ym Mharis, ac yna, 3ar foment y coroni, rhoddodd Napoleon y goron ei hunan ar ei ben.