Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfiawnhau Crefydd.* YM mha ffordd yr anghytuna'r anffyddiwr â'r crediniwr ? Gellid ateb fel hyn, Dywed y crediniwr fod Duw, a dywed yr anffydd- iwr nad oes Duw; y mae mor syml â hynny. (Mae'n edrych yn syml, beth bynnag.) Pa beth a ddywedir wrth hawlio fod Duw i'w gael, neu beth a wedir wrth haeru nad oes ? Y mae Duw ­Nid oes Dduw," ai yr un fath o osodiadau yw'r rhain a Y mae cadair yn yr ystafell nesaf-Nid oes cadair yn yr ystafell nesaf? Golwg gyffelyb sydd arnynt o ran gramadeg. Mewn geiriau eraill, rhydd y gosodiad, Y mae Duw yr argraff ein bod yn mynegi ffaith. Gwadu hynny yw fy amcan i. Os galwn ni rywbeth yn ffaith, y mae bob amser yn deg tybio y gallai fod fel arall. Yn yr enghraifft arbennig yr ydym eisoes wedi cyfeirio ati, os dywedwn, "Y mae cadair yn yr ystafell nesaf," teg yw dywedyd ei bod yn bosibl i'r gadair beidio â bod yno. Cyn gallu dweud fod rhywbeth yn bodoli felly, ac y mae hyn yn gyfystyr â'i alw yn ffaith, rhaid ei bod yn synhwyr- ol tybio y gallai beidio â bodoli. Eithr hyn ydyw'r union beth na all y dyn crefyddol mo'i gydnabod wrth gyffesu ei ffydd yn Nuw. Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd "—nid synhwyrol tybio y gallai Duw beidio a bod yn y nefoedd, neu y gallai beidio a bodoli. Dylai hyn ynddo'i hun ein harwain i sylwedd- oli nad ydym, wrth sôn am Dduw, yn crybwyll ffaith. Nid yw llyn yn golygu nad yw Duw, ond yn hytrach na fyddwn ni, wrth sôn am fodolaeth Duw, yn arfer iaith yn yr un modd ag y byddem pe baem yn crybwyll ffeithiau. O ganlyniad, nid oes lle i'r delweddau sy'n gysylltiedig a siarad lle y mae a fynnom ni a ffeithiau, mewn siarad lIe y mae a fynnom ni â Duw. A bod yn fanwl gywir, dylem ddweud gyda Kierkegaard nad oes bodolaeth i Dduw; tragwyddol yw (gw. Concluding Unscientific Postscript, td. 296). Wele wrthwynebiad arall. Os byddwn yn amgyffred Duw fel ffaith, mwy neu lai fel y byddwn yn amgyffred y gadair yn Dynodir prif bwrpas yr erthygl non yn y teitl, ona mae iddi amcan arall, sef dangos ffolineb y safbwynt nad oes gan athroniaeth ddiweddar ddim i'w ddwend am grefydd.