Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diraddio Crefydd. Peth anodd iawn fyddai meddwl am unrhyw brofiad mwy tor- calonnus a mwy sicr o greu digalondid i broffwyd yr Arglwydd na'r profiad o wybod ei fod wedi'i ddiraddio gymaint yng ngolwg ei wrandawyr fel nad oedd ei genadwri yn fawr gwell na moddion adloniant ac achlysur mwyniant a theimladau pleserus iddynt. Y fath brofiad a groniclir am y proffwyd Eseciel, un o broffwydi mawr Duw yn amser y gaethglud ym Mabilon, ac un o'r mwyaf yn yr holl olyniaeth broffwydol. Yn y drydedd bennod ar ddeg ar hugain darllenwn y geiriau arwydd- acáol hyn, Wele di hefyd iddynt fel can cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda; canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnant hwynt (adn. 32). A'r rheswm a roddir am hyn yw, canys â'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod." Gellir casglu oddi wrth y cyd-destun mai gwrthrych o ddi- ddordeb eithriadol i'r bobl yw'r proffwyd o hyd. Ni flinir arno gan y broblem bresennol o brinder gwrandawyr. Y mae llawer yn dyfod yn gyson i wrando'i eiriau llosg tra fo'n dadan- soddi'r achosion sy'n gyfrifol am eu cyflwr truenus. Un peth a gyfrannodd yn fawr at roi i'r proffwyd le anrhydeddus yng ngolwg y carcharorion yw'r ffaith fod ei broffwydoliaethau wedi'u cyflawni mor ddifeth, ac yn wyneb hyn cadarnhawyd ei safle fel gwir broffwyd Duw yn eu plith. Mewn dyddiau pan ymgysurai ei gydwladwyr dan ddylanwad addewidion bregus a gobeithion disail y gau-broffwydi y byddai eu profedigaethau drosodd ymhen byr amser ac yr iacheid briw merch Seion yn esmwyth, yr oedd Eseciel yn ddigon llygatgraff i weld ac yn ddigon eofn i ddatgan ei feddwl a mynegi'i farn yn bendant ac yn ddiamwys. Cyhoeddodd heb flewyn ar ei dafod mai gwaeth ac nid gwell fyddai eu tynged. Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Dywed wrth Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn halogi fy nghysegr, godidowg- rwydd eich nerth, dymuniant eich llygaid, ac anwyldra eich enaid;