Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig Eiriau. I LAWER, mi gredaf, ystyr anelwig—boed un n neu ddwy n- sydd i gafell. Gwyddom mai sanctaidd yw'r ansoddair addas i'w arfer gydag ef, neu yn wir sancteiddiolaf, a bod perthynas rhyngddo a'r deml ac addoliad. Felly, er mwyn manylwch, ac ychwanegu at ein gwybodaeth ddelwig neu elwig, awn at y gair a'r ysgrythur. Y lIe y cawn olau pendant arno yw Llyfr y Brenhinoedd, yn arbennig yn y chweched bennod, lle sonnir am deml Solomon, a'r modd yr adeiladwyd. Yn y bumed adnod dyma a geir, "Efe a adeiladodd wrth fur y ty ystafelloedd ynghylch y deml a'r gafell," yn Saesneg, "both of the temple and of the oracle" Yn y bymthegfed adnod ac ymlaen disgrifir y modd y byrddiwyd y tv oddi fewn ag ystyllod cedrwydd o lawr y ty hyd y llogail (S. "the walls of the ceiling "), a llawr y ty a phlanciau o ffynid- wydd. Yn yr adnod nesaf, "felly yr adeiladodd iddo o fewn, sef i'r gafcll, i'r cysegr sancteiddiolaf (S. for an oraclc, even for the most holy place). Yna 19, A'r gafell a ddarparodd efe yn y ty o fewn, i osod yno arch cyfamod yr Arglwydd (S. he prepared an oracle in the midst of the house within to set there the ark of the covenant of the Lord). Felly y gafell oedd yr ystafell fwyaf mewnol yn yr holl deml, y cysegr sancteiddiolaf yn y cysegr sanctaidd. Diau mai ati hi y cyfeirir yn y Salm xxvii, 5, Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y'm cuddia ac yn Fseciel vii, 22; "Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa ie, an- rheithwyr a ddaw iddi, ac a'i halogant." Cadarnheir ystyr cafell eto yn 2 Cron. v, 7, A'r offeiriaid a ddygasant arch cyfamod yr Arglwydd i'w lle, i gafell y ty, i'r cysegr sancteiddiolaf, hyd tan adenydd y cerubiaid (S. into the oracle of the house, to the most holy place, even under the wings of the cherubim). Yn Lladin ceir "ad oraculum templi, in Sancta sanctorum subter alas cherubim." Oraculum oedd y gair am gyhoeddiad neu ddatganiad dwyfol: wedyn datganiad proffwyd-