Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwerthfawrogiad Llenyddol o Lyfr Emynau y Methodistiaid. PAN oeddwn ar fedr rhoi yr ysgrif hon ar y gweill, gofynnodd y wraig imi fynd gyda hi i brynu "Cardigan." Yr oedd y tal a gefais am fynd yn fwy o werth i mi ar y pryd na dim, oherwydd ces benawdau hwylus i'm hysgrif. Gwelais fod yr hyn sy'n bwys- ig wrth ddewis "cardigan" yn bwysig hefyd wrth drafod emynau o safbwynt llenyddol­-rhaid rhoi sylw i'r deunydd, i'r patrwm ac i'r gwead. Deunydd emynau yw profiadau crefyddol. Bu ychydig o newid ar ffurf y deunydd hwn o dro i dro. Gwnaeth golygydd- ion y gwahanol gasgliadau a'r awduron eu hunain weithiau rai cyfnewidiadau, rhai er gwell, eraill er gwaeth. Gwelwyd yn dda dderbyn ambell gyfnewidiad am ei fod yn welliant ar y gwreiddiol, ond, gydag eithriadau, eu ffurfiau cynnar a roddwyd i'r emynau hyn. Amrywia'r Patrwm. Nodwn yn fras dri phatrwm: (I) Y patrwm Iddewig sy'n dod i'r golwg yn aralleiriad mydryddol Edmund Prys o'r Salmau a rhai cyfieithiadau rhydd o'r Salmau gan Isaac Watts wedi eu trosi gan Dafydd Jones o Gaeo (335 a 403); emyn 36 o waith Huw Myfyr. Ceir cyfoeth barddon- iaeth yr Iddew yn yr emynau hyn, ac elw mawr fu hynny i ni. Ni flinwn ar ganu "Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw"; "Ar- glwydd y bydoedd fry." A luniodd Dafydd Jones ragorach pennill na hwn ? Hoff gan aderyn to Gael yno i'w gywion le; A'r wennol, ar ei thro Hiraetha am ei thre'; Mae hiraeth f'enaid i'r un faint Am gael preswylio 'mhliîh y sainf. (2). Y patrwm Eglwysig a Chatholig a welir (a) yn. hen emyn- au'r Eglwys, megis 246 a 245, trosiadau a briodolir i Rowland Fychan o Gaer Gai, seiliedig ar "Veni Creator Spiritus" o'r naw-