Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwahanglwyf yng Nghymru. Mae atiechyd y gwahanglwyf bron yn gyfyngedig bellach i wled- ydd y trofannau, ac yn weddol gyffredin o hyd ar gyfandir Affrica, yn yr India, gwledydd y Dwyrain Pell, a Deau America. Er nad yw meddygaeth fodern hyd yma wedi ennill buddugol- iaeth glir arno i'r graddau y cafodd hi oruchafiaeth ar y clefyd- au mawrion a heintus eraill fel y typhoid," y geri marwol, a'r pla, eto mae rheolaeth ofalus a threfniadau meddygol arbennig ar gyfer gwahangleifion wedi atal cryn dipyn ar y clefyd tru- cnus hwn. Darganfyddwyd yn ddiweddar nifer o gyffuriau cemegol sy'n lliniaru hynt yr afiechyd, ac mae gobaith fod peth- au gwell i ddyfod. Ond ar hyn o bryd erys rhyw bum neu chwe miliwn o wahangleifion yn y byd i gyd, gyda'r nifer yn graddol leihau. Mae syniadau cyntefig am natur yr afiechyd hwn, a'i ddifrod dychrynllyd ar bryd a gwedd y dioddefydd, yn rhoi iddo ryw ar- benigrwydd arswydus, ac ar hyd y canrifoedd esgymunwyd o gymdeithas ei gyd-ddynion y gwahanglwyfus dolurus, yn wr ffiaidd, heintus, hagr. Ond, yn wir, ni throsglwyddir yr afiech- yd ond trwy gysylltiadau a chyffyrddiadau agos iawn, fel mai prin y cynhwysir y gwahanglwyf heddiw ymysg yr afiechydon hynny a gyfrifir yn gyffredinol yn rhai heintus. Pur anaml, er enghraifft, y trosglwyddir yr afiechyd i'r etholedigion dyngarol sy'n gofalu dros wahangleifion. Mae eithriadau, wrth gwrs, ac eithriad felly oedd yr enwog Dad Damien a aeth ei hun yn aberth i'r afiechyd yn ynysoedd Môr y De. Darganfyddwyd trychfilyn yr afiechyd gan Armauer Hansen yn Norwý yn 1874, ac mae i'r bacteriwm hwnnw nodweddion tcbyg iawn i'r un sy'n achosi darfodedigaeth, a thebyg hefyd, i raddau helaeth, yw ymateb y corff i'r ddau afiechyd. Cyfyd bacteria y lepra chwyddiadau a brech ar y croen, weithiau'n goch, dro arall yn colli pob lliw gan droi'r croen mewn mannau yn berffaith wyn,-yn farw-wyn yn wir­-y math o wahanglwyf a elwir yn lepra alba.1 Ar brydiau try'r chwyddiadau'n llinoriaid ac yn friwiau agored, gan redeg a chramennu, ac ambell dro ceir