Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cysur i Gyd." Rai misoedd yn 61 bellach, ar daith led faith ac unig yn y trên- a minnau'n pendwmpian yn awr ac eilwaith, daeth Pen Llyn yn fyw iawn i'm cof. Ac yn lle ceisio dygnu ymlaen gyda thudalennau'r gwaith ar fy nglin, mynnai fy ysbryd grwydro'n ôì i Lŷn i chwarae unwaith yn rhagor yn nhrochion atgofus Porth Iag0 a Phorth Ysgo ddeugain mlynedd yn ôl. Yr oedd bae Aberdaron yn ymagor, a'r ddau Benrhyn fel dwy fraich warcheidiol yn ymestyn i'r de-orllewin i ddiogelu'r traeth. Dacw'r cychod yn drefnus dan gysgod mur yr hen Eglwys ac yn ddiogel o afael y penllanw, a'u henwau'n glir o flaen fy llygaid-y Kent, y Lil, a dacw Sea Lion Tir Glyn, yr unig un gyda mizzen; a thu draw iddo gorwedd cwch mawr llwyd, Doranda William Owen, gyda thipyn o ddec ar draws ei flaen; heb sôn am y cwch trwm, du a dienw tra gwahanol i'r lleill ac yn gorffwys ar ei ben ei hun dan Ben yr Odyn-cwch oedrannus na feiddiem ei gyffwrdd a berthynai i'r hen wron, Wil Gegin. Ac yn ei ymyl 'r oedd sgwner fechan, y Pilgrim, wedi rhedeg i'r lan i ddadlwytho glo. Yna mewn dychymyg gadewais y traeth a'r pentref a cherdd- ais yn hamddenol tuag Uwchmynydd a Phen Parwyd-y graig fawr sy'n disgyn yn unionsyth i Swnt Enlli­-gan gofio'r enwau hudolus ac awgrymog o'm cwmpas megis Cwrt, Bod Ermid a Phorth Meudwy, Gwag y Noe a Chae Crin, yr Hen Borth a Phorth Gwyddel. Funud wedyn 'r oeddwn yn marchogaeth yn araf ac urddasol ar gefn mul Hugh Jones y Felin i ben Mynydd Mawr, ac ymdroi dipyn i wylio fy nhad yn olrhain sylfaeni Eglwys Fair yn y rhedyn, ac i wrando ar ymchwydd teitiau'r Swnt yn pwyo'r creigiau islaw'r ffynnon. Cofiais am y guddfa glyd a chul ynghanol y grug a'r eithin­-"Llety Wyn" y'i gelwid. Pwy oedd y "Wyn" yma tybed a fu'n ymguddio yno? Tybed mai un 0 Gatholigion Llyn ar ffo ydoedd yn adeg y gormesu fu arnynt? Ac oni ddywedai traddodiad mai teulu ffarm gyf- agos, Llan Llawen, ofalai am fwydo ac ymgeleddu'r ffoadur? Chwerddais yn dawel, er syndod i'm cyd-deithwyr yn y trên,