Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Calfiniaeth. FE ellid dadlau mai adwaith Galfinaidd yw un o dueddiadau amlwg y ganrif hon ac yn arbennig yn rhai o'r cylchoedd hynaf eu tras, megis Diwinyddiaeth, Athroniaeth, a Gwleidyddiaeth. Yn-fyr, daeth Çalfiniaeth yn ól i fyd y. diwinydd, Dirfodaeth i fyd yr athronydd, ac Uwchfodaeth neu Uwch-bennaeth i fyd y gwleidydd. I'r neb a honna fod yn "fodern" neu "gyfoes" ym- ddengys y gosodiad cyfan yn un anhygoel ac anghredadwy oblegid yn y Gwyddorau nid Calfiniaeth uwchfodol o un math a'i piau hi. Yn o sicr "adwaith" yw hyn oll ond nid yw hefyd heb ei wreiddiau, pell neu agos. ;Synnwn at y duedd hon ond nid yw hanes y gorffennol maith heb lawer enghraifft debyg. Rhy barod ydym i briodoli newydd deb lle nad oes mewn gwirionedd ond atgynhyrchu rhyw beth- au cyfrina chymhleth a fu eisoes yn rhan o ymofyn ac ymchwil oesoedd eraill. Mewn Diwinyddiaeth gyfoes, sut bynnag, eglur iawn yw i'r neb a sylwa fod cryn "adwaith" wedi nodweddu y tridegau diwethaf ac nid difudd a fuasai trafod hyn. Y "Galfin- iaeth, Newydd" mae'n debyg a roddid yn bennawd i'r pwnc, a buasai dywedyd hynny efallai yn ddigon o ragymadrodd, ond rhaid hefyd fyddai myned at y peth yn fwy diriaethol ac agos. Mewn dau gylch arbennig y mae'r duedd "ar i fyny," mewn Athrawiaeth ac mewn syniadau am Ysbrydoliaeth. Karl Barth a'i ddilynwyr (heb yn wir anghofio Rudolf Bultmann wrthebol a çhymhleth ei feddwl) biau'r naill, a'r blaid grefyddol ddi- athrawiaeth (o fentro'r fath ddisgrifiad) a biau'r llall. Y Ddi- winyddiaeth uwchfodol—a'r fympwy anhanesyddol! Ond pwy a rydd ben a dosbarth ar y pethau hyn ? I ni yng Nghymru hefyd y mae'r duedd hon yn un o gryn arwyddocad orid nid yw yn eglur eto beth a fyddwn" Y cwbl sy'n amlwg yw fod yr "adwa,jth" yn ein plith mewn llawer dull a modd, ond o gofio ein cyn-hanes ninnau ni raid synnti at hynny. Y peth gorau yn ddiau ydyw i ni ymgodymu eilwaith â'i her, yn dda ac yn,;ddrwg.. Yn yr ysgrif hon y maes Diwinyddol yn unig avgymerir. Bwriadaf hefyd wneuthur rhai cyfeiriadau at lyfryn arbennig— "Beth yw Calfiniaeth?" S. O. Tudor (Llyfrfa'r Cyfundeb)— ond K