Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. LIATR ESEIA (I—XXXIX) (Detholion). Esboniad gan y Parchedig G..H. Jones, B.A., Blaenclydach. Llyfrfa'r Mcthodistiaid CaJ.finaidd. 5/6. Llwyddodd y Parch. G. H. Jones i baratoi esboniad a fydd o wir gymorth i ddeiliaid yr Ysgol Sul yn y maes cyd-enwadol a ddewiswyd iddynt eleni. Y maes hwnnw yw detholion o Eseia í — xxxix. Nid yw'r Rhag- arweiniad yn un maith, ond gosodir y neb a'i feistrola ar dir i sylweddoli neges y Proffwyd. Wrth drafod ystyr y term "proffwyd" pwysleisia'r awdur mai anghyflawn iawn yw'r dehongliad mai ei genhadaeth yw rhagfynegi. Ar yr un pryd eglura ym mha ystyr y mae'n cyhoeddi'r hyn sydd i ddod. Am ei fod yn clywed yn well nag eraill, gwêl hefyd yn gliriach ac ymhellach. Yr hyn sy'n cyfrif am y gweled a'r clywed yw meddiant yr Arglwydd o'i bersonoliaeth. Cymharer td. So. "Daliwyd y proffwyd gan wys oddi uchod, ac fe'i cafodd ei hun, os goddefir y gair, yng 'nghrafangau Duw.' Cyfeiria'r awdur at ddisgrifiad Jeremeia ohono fel un "yng nghyngor yr Arglwydd (Jeremeia xxiii, 18). Gair arferol y cyfieithiadau Saesneg am "gyngor" yw counsel, ond yr hyn a esyd yr awdur rhwng cromfachau yw "cynulliad" gan gyfeirio at syniad yr Hebrëwr am gynulliad (council) o fodau goruwchnaturiol â Jehofah yn bennaeth arnynt. Gwerthfawr yw'r sylw nad llefaru yn enw yr Arglwydd a gweithredu fel ei gennad oedd unig swydd y proffwyd., Arferid cyferbynnu'r proffwyd a'r offeiriad a phwysleisio mai ymddangos dros Dduw gerbron dynion a wnâi'r proffwyd, ac mai ymddangos dros ddynion gerbron Duw a wnâi'r offeiriad. Ond pwysleisir yma fod y proffwyd yn llawn cymaint o weddïwr ar Dduw ag ydyw o lefarwr drosto. Yr oedd y proffwyd felly yn ei uno ei hun â Duw ac â dyn-ei enau tua'r ddaear a'i lygaid tua'r nef (tud. 12). Dangosir yma y modd y mae'r ymdriniaeth ar berthynas y proffwyd a'r offeiriad yn ymwneud ag un o'n problemau eglwysig heddiw. Os bernir heddiw mai llawn cystal, onid gwell, ydyw i ymneilltuwr ac eglwys- wr rwyfo bob un ei gwch ei hun, ni ellir gwadu bod proffwyd ac offeiriad yr H.D. yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd (td. 12). Ym Moses, sylfaen- ydd crefydd yr Hen Destament, unir yr offe'irîad a'r proffwyd; ac ar ôl ei ddydd ef, ymuna'r ddau yn barhaus yn nefodau'r cysegrfannau ac yn ddiweddarach yng ngwasanaeth y deml. Gwelir hefyd fod yr offeiriad yn ogystal â'r proffwyd yn wir gennad Jehofah. Trysora'r H.D. oraclau'r offeiriaid ochr yn cchr ag eiddo'r proffwydi. Yn ddiamau, yr oedd i'r naill a'r llall eu lle anhepgor yng nghrefydd yr Hebrëwr. Swynol yw'r gymhariaeth ar dudalen 15, "Y maent o leiaf mor naturiol ac esmwyth gyda'i gilydd ag ydyw adnodau-benillion Edmwnd Prys ac emynau Panty- celyn yn ein Llyfrau Emynau. Gwir yw nad ar Salmau Cân yr Arch- ddiacon .y bydd byw enaid Cristion, oblegid gofyn ei brofiad ef am Bant- ycelyn ac eraill y taniwyd eu heneidiau gan wres a grym y weledigaeth o'r Arglwydd Iesu. Er hynny ni feiddiai neb amau gwerth y Salmau Cân yn yr addoliad. Felly hefyd yng nghrefydd yr H.D. Yr oedd lle hanfodol ynddi i oraclau tawel yr offeoriad, a oedd- yn fwy ceidwadol na'r proffwyd,