Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyflawnodd yr Argraffwyr eu gwaith yn raenus a gofalus. Ni sylwais ond ar ddau gamgymeriad a all beri penbleth i'r darllenydd, sef y "cwbl" yn lle cwlt ar td. 27, a gwahardd yn lle gwahodd yn ail linell td. 31. Ni welais ond rhyw ddau neu dri o fân wallau, ond ni fydd y rheini yn dramgwydd i neb. Caerdydd. J. R. Evans. JOHN MORRIS-JONES, I864—I929, gan Thomas Parry. [Gwasg y Brif- ysgol. Pris, 3/) Beth yw'r berthynas rhwng cloc trydan, bardd cadeiriol, a llyfr ar ramadeg?" Cafodd awdur y portread hwn o John Morris-Jones hwyl an- arferol wrth ateb y cwestiwn. Prin y gwyddai llawer o'r myfyrwyr a fu yn nosbarthiadau Syr John pa mor gelfydd oedd gyda'i ddwylo, ac y "gallai fod wedi bod yn grefftwr nodedig iawn-yn saer dodrefn graenus, dyweder, neu o arian neu aur, neu'n wir yn artist yn paentio lluniau neu'n cerfio delwau," a byddant yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol hon am eu hen athro. Wrth ddarllen ymlaen, a tharo ar "Y Gramadeg Mawr," daw ffrwd o atgofion yn ôl iddynt a chlywant eto y cwpledau a'r brawddegau o'r Ysgrythur a frithau'r darlithoedd hynny, a chofiant ambell dro ysmala. fel hwnnw pan ofynnodd Syr John, yn Saesneg, "How does that verse go?" a dechrau dyfynnu'n araf, Pe cyweiriwn fy ngwely yn uffern Yn sydyn, dyma fyfyriwr, yn y sedd fiaen hefyd, offeiriad parchus erbyn hyn, yn cwblhau'r adnod mewn llais clir. Chwarddai'r athro yn ddi- lywodraeth. Dosbarthiadau difyr oedd rheiny. Os gwir y gair y dylid darllen barddoniaeth yn uchel, lle clywo y neb a fo o fewn cyrraedd, John Morris-Jones a ddatguddiodd i lawer un, am y waith gyntaf, rin geiriau a thlysni iaith, a gresyn nad oes "record" ar gael o'r llais mwyn hwnnw. Hawdd gennym gredu "pan fyddai ymwelwyr yn dod i Goleg Bangor i weld y lle, os deallent fod John Morris-Jones yn mynd i ddarlithio," eu bod "yn sefyll wrth ddrws yr ystafell Gymraeg er mwyn cael cip olwg arno'n pasio." A dyma^r tri "cameo" hyn, o waith artist, ac un o ddisgyblion disgleiriaf Syr John, i roddi i ni gliriach syniad nag a feddem o'r blaen o'r gymwynas a wnaeth ef i iaith a barddoniaeth Cymru. Bellach tyfodd cenhedlaeth nad adnabu mó't dewin o Lanfáirpwll, ond gwr hapus fydd yr athro ysgol a dreulia awr neu ddwy i roddi cynnwys y gyfrol hon i'w ddosbarth, a ffodus fydd y dosbarth hwnnw. Os yw'r ysgol mewn ardal lle nad yw'r Gymraeg mor gadarn, y mae'r cyfieithiad Saesneg gan Mrs. Amy Parry-WiUiams wedi diogelu'n gelfydd holl fanylion y darlun. Byddai'r hen athro yn llawen iawn heddiw pe gwyddai pwy ydyw pen- naeth^ newydd Coleg y Btifysg'ol, Aberystwÿth. Wrth ddiolch i'r Dr. Thomas Parry am ein dwyn mor gyfeillgar agos at John Morris-Jones, cyflwynwn iddo ein dymuniadau gorau wrth iddo gymryd at y llyw yng righoleg hynaf Prifysgol Cymru. Clydach í; GLYNNE DAVIES JONES.