Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Ateb yr Efengyl i Wyddoniaeth Gyfoes.* I. Y mae rhai problemau nad oes iddynt eto ateb terfynol. Efallai am nad oes gennym mo'r dystiolaeth angenrheidiol i'w hateb ond y deuwn mewn amser i'w chasglu a darganfod yn raddol y ffordd i'w datrys. Anwybodaeth sy'n cyfrif am fethu ateb problemau felly. Ond y mae eraill na ellir eu hateb trwy gasglu gwybodaeth. Yn wir y mae gwybod mwy yn gwneud y broblem yn fwy. A dyna sy'n cyfrif am anhawster y broblem sylfaenol ym mhrofiad y rhai mwyaf meddylgar a fagwyd yng ngwareidd- iad y Gorllewin y bedair canrif olaf hyn, sef i gysoni dargan- fyddiadau a method y gwyddonydd gyda thystiolaeth grefyddol ac argyhoeddiadau moesol aelodau'r gwareiddiad hwnnw. Nid trwy gasglu fíeithiau y gellir ei hateb. Problem wyddon- ol a fyddai petawn yn ei datrys felly. Yr anhawster yw gwrth- drawiad ymddangosiadol rhwng gwyddoniaeth a ffordd arall o feddwl nad yw'n wyddonol. Ateb rhwydd, wrth gwrs, i'r cwestiwn yw gwrthod cydnabod y ffordd hon o feddwl a derbyn yn unig y ffordd wyddonol. Eithr dewisiad personol yw hyn ac nid ateb y broblem, mewn geiriau eraill gwrthod derbyn y broblem fel un ddilys, a phenderfynu mai gan y gwyddorau naturiol y mae'r dulliau priodol i ddehongli ein byd a'n bywyd. Ar y llaw arall os cydnabyddir bod problem ddilys, a bod posibilrwydd cymod rhwng y gwyddonydd a'r crefyddwr, cyfyd anhawster arall. Newidia damcaniaethau'r gwyddonydd o gyf- nod i gyfnod, dehongla dynion hefyd eu profiadau moesol a chrefyddol mewn termau gwahanol gyfnodau, felly y mae'n rhaid i bob cenhedlaeth yn ei thro geisio cysoni a gwneuthur undod meddyliol ohonynt. O'blegid nid yn yr un ffurf y cyfyd Seiliedig ar anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithasfa yn Llanidloes, Mai 20, 1958. Cyfrol CXIII. RHTF 489. HYDREF, 1958.