Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BETH amser yn ôl cefais y fraint o wrando ar brofiad un o ragor- olion cymdeithas, profiad a fu yn werthfawr iawn i mi. Bu ei werth yn ddeublyg, yn gyntaf yn bersonol, ac yn ail fel preg- ethwr. Gwr wedi cael addysg golegawl ydyw'r cyfaill, ond ni ellid ei restru ymhlith sêr ei genhedlaeth. Addysg wyddonol a gafodd ac aeth allan i fywyd yn credu llawer o'r ffydd Grist- ionogol fel y credodd y wyddoniaeth a gafodd yn y coleg. Ni dderbyniai'r Beibl yn llythrennol; maged ef yn fachgen yn yr Ysgol Sul, lIe cafodd athro da a oedd yn derbyn beirniadaeth Feiblaidd fel na bu unrhyw frwydr yn ei feddwl i ddadwneud hen wybodaeth Feiblaidd yn wyneb gwybodaeth newydd. Er na dderbyniai'r Beibl yn llythrennol derbyniai athrawiaethau sylfaenol yr Eglwys Gristionogol, megis Bodolaeth Duw fel Person, Dwyfoldeb y Mab a'i Enedigaeth wyrthiol, a Rhaglun. iaeth Duw. Wynebodd fywyd yn credu hyn oll. Yna wedi dilyn ei alwedigaeth, priodi, gwybod am fywyd yn ei wahanol agweddau, eglwysig a threfol, cafodd ar ei aelwyd ei hun bro- fedigaeth galon-rwygol, unig, bersonol. Collodd un o drysor- au gwerthfawrocaf bywyd. Chwe mis ar ôl hyn darllenodd Gofiant Walter Lowrie i Soren Kierkergaard. Y mae ei stori wedi ei chysylltu â'r gwaith a wnaethpwyd ar ei enaid gan bedwar llyfr mewn cyfnod o bum mlynedd: Cofiant Kierker- gaard, Man Born to be King, gan Dorothy Sayers, God With Us, gan S. L. Frank, a Does God Exist? gan A. E. Taylor. Arweiniwyd ef gan sylw gweinidog gyda'r Bedyddwyr i ddarllen Kierkergaard yn yr adeg yr oedd ei enaid mewn tywyll- wch oherwydd ei golled fawr. Gyrrodd darllen Kierkergaard ef i dywyllwch mwy, ei neges iddo ef oedd yr alwad i fod yn Gristion. Sylweddolodd gydag ing nad oedd ef wedi ymddwyn yn ei brofedigaeth fel y gweddai i gredadun. Darganfu nad oedd yn credu yr hyn a dybiai ei fod yn ei gredu. Gwelodd ei fod yn hytrach yn anghredadun. Gwnaeth hyn iddo sylwi yn fanwl ar eraill gan edrych a disgwyl am ymddygiad addas wrth Cyfeillion Enaid.