Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Suddiad Cwch Enlli Tachwedd 1822." Mлε dipyn dros ddeugain mlynedd yn ôl bellach, mae arnaf ofn, ers pan gefais y fraint o fyned i Lỳn— a hynny yn hen goets fawr Tocia. Dyna mae'n debyg, un o'r pethau cyntaf wy'n gofio, ac fe erys o hyd yn fy nghyfansoddiad rhyw gyfran o swyn a chyfaredd y dyddiau euraid hynny. Er fy mod yn ieuanc iawn ar y pryd, yr oedd Llyn wedi gafael ynof, ac wedi "fy rhwymo heb i'm wybod" wrth ei cholofnau. Bu rhaid i mi aros ychydig o amser cyn y medrais amgyffred natur yr hudoliaeth, ac aeth rhai blynyddoedd heibio cyn y gallwn ddweud gyda'r Parch. J. G. Roberts: "Ond na thybied neb iddo adnabod Llyn onid aeth i'w chesail dawel yn y nos, a sefyll rhwng ei dolydd pan fo'r lleuad yn wen a'i lledrith rhwng pob cysgod; pan fo'r môr mor ddistaw â'r bedd a Llyn yn cysgu'n ysgafn ar ei glustog las." A rhaid cyfaddef fy mod yn efrydydd cyn symud gam ymhellach a llwyddo i brofi rhywfaint o'r rhinwedd arben- nig y soniai y Parch. R. Meirion Roberts amdano yn ei soned i Lyn. Mae'n rhaid fod seintiau fyrdd yn Llyn ystalm Beth arall ydyw'r hud sydd ar y lIe Ond dwyster gweddi a diweirdeb salm Wedi rhyw lynu rhwng y ddaer a'r nef Gan adael yno'r tangnef dwfn, di-wae, A'r tegwch nad yw degwch clawdd na chae. Nefoedd i fachgen nwyfus a iach oedd Llyn yr adeg honno. Yr oedd cyfeillion i'm teulu bron ymhob ardal, a nifer o berth- nasau caredig hefyd-a llawer ohonynt yn berchen cwch; felly yr oedd cyfle i "gael mynd allan i 'sgota" o Lanbedrog ac Abersoch, Nefyn a Phortinllaen, heb sôn am Aberdaron a'r traethau cyfagos ym Mhorth Ferin, y Dinas a Phorth Meudwy. Yn Edern 'r oedd fy nau ewythr, y naill ym Mhwll Clai a'r llall yn y Post, ac fe dreuliais oriau lawer gyda'r nos yn gwrando arnynt yn ail fyw trwy erwinder stormydd y Werydd, yn rownd-