Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tad trugarog llawn addfwynder, Dy wir dyner arfer yw Lwyr fendithio dyrys droion, Er rhybuddion i'r rhai byw; Gwna i'r gweddill a adawyd Fyw yn d'arswyd a'th ofn dwys, A gair dwyfol boed eu rheol Gydwybodol yn gyd-bwys. Cafodd gweddwon gennyt ddigon O'th fendithion, rhoddion rhad, Ti i'r gwan amddifaid gwirion Fuost ffyddlon dirion Dad; Boed i'r un drugaredd eto'n Fuan wawrio, addfwyn wedd, Gweddwon ac amddifaid Enlli Gaffo'i phrofi hi a'i hedd. Profiad cyfarwydd i rai o wledydd y byd, hyd yn oed heddiw, yw ymweliad ambell haint o dro i dro, ac ymysg y cenhedloedd a alwn ni yn anwar, difrifol yn aml yw eu canlyniadau. Ond yng Nghymru, ar wahân i'r ffliw yn awr ac yn y man, a'r polio weithiau, nid yw heintiau erbyn hyn yn peri fawr o bryder i ni; afiechydon slei sy'n dod yn sgîl blynyddoedd y canol oed, afiech- ydon y dirywiad distaw yw ein hetifeddiaeth ni yn hytrach na dyrnod epidemig. Er hynny, nid oes ond hanner canrif, fwy neu lai, er pan fu afiechydon heintus yn cynhaeafu'n doreithiog yma, ac yn enwedig ymysg plant. Ymysg y rhesymau sy'n cyf- rif am ein goruchafiaeth ar yr afiechydon hynny mae'r dyrchaf- iad cyffredinol mewn safonau byw a'r cynnydd yn ymdeimlad cymdeithas o gyfrifoldeb am iechyd ei haelodau, ac wrth gwrs bu datblygiadau gwyddonol pwysig mewn meddygaeth. Hefyd, oherwydd rhwydd hynt y drafnidiaeth o wlad i wlad, ychydig o bobl yng ngwledydd y Gorllewin sydd bellach heb gynefino ag afiechyd trwy aml gyffyrddiad. Wrth gynefino felly â llawer o ddoluriau a mynd yn hen gyfarwydd â phlwc o haint ar ei dro cawsom y ddawn gynhenid i'w gwrthsefyll yn y man. Ac yn ychwanegol i'r gwarchae naturiol hwnnw mae moddion parod o weithfa'r gwyddonydd wrth law i gryfhau ein gallu i wrth- sefyll afiechyd. Dyna sy'n digwydd heddiw gyda'r polio a'r Drwy'r holl ynys treiddied sobrwydd, I'th air lwydd a rhydd fawrhad; Tyn ei phobl i'r wir ymgeledd O fewn hedd y cyfiawnhad. Boed eu gweddi hwy bob ennyd Pan ar hyd terfysglyd fôr- "Arglwdd ar y gwynt ar tonnau Cau dy ddyrnau, cadw'r ddôr. Tro galonau gwyr y llongau, Trwy holl barthau bannau byd I gydnabod ac i gredu Mai Ti sy'n meddu'r gallu i gyd. Dangos iddynt nad oes noddfa, Diogelfa ond y Gwr A wyr rif y ser a'u henwau Rhif a phwysau'r dafnau dwr. Y Frech Wen yng Nghymru.