Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Renan a Chrefydd y Gwyddonydd. Y mae adegau o chwyldroad, yn nhyb Ernest Renan, yn rhoi hwb i ddatblygiad y meddwl. Yng nghanol y stormydd mawr y megir plant o athrylith â'r gallu i dorri hualau dynion, i'w rhyddhau o'u llesgedd. Os felly y mae mewn gwirionedd, bu gwlad Ffrainc yn ffodus dros ben yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd y Chwyldroad Mawr ar ddechrau'r ganrif gan chwyldroad arall ym mis Gorffennaf, 1830, a hwn yn ei dro gan Chwyldroad 1848. Cysylltir enw Chateaubriand â'r cyntaf o'r chwyldroadau hyn, enw Lamennais â'r ail, ac enw Renan ei hun a'r trydydd. Pan oedd y chwyldroad olaf yma yn rhuthro'n derfyglyd trwy ystrydoedd Paris, bu Ernest Renan, athro ifanc yn ysgol bres- wyl Crouzet, wrthi'n ddiwyd yn llafurio er mwyn tawelu'r storm oedd wedi codi yn ei enaid ei hun. Os oedd chwyldro enbyd tu allan i furiau'r ysgol, yr oedd mwy o chwyldro 0 lawer tu mewn i'w fynwes ef. Yr oedd tair blynedd 'bron wedi llithro ymaith bellach er y noson dyngedfennol honno, y 6ed o Hydref, 1845, pan gaeodd drysau Coleg Diwinyddol Saint-Sulpice arno, a gorfu iddo adael am byth yr yrfa offeiriadol oedd wedi golygu cymaint iddo hyd yr awr honno. Yn y cyfamser yr oedd y Llydawr mentrus wedi llosgi olew'r lampau hyd oriau mân y bore gyda'r bwriad o gynllunio gyrfa newydd fel ysgolhaig. Eisoes yr oedd wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn ei arholiad- au seciwlar, wedi ennill gwobrau gwerthfawr ym myd addysg, ac wedi dechrau gwneud enw iddo ei hun fel awdurdod ar ieith- oedd y Dwyrain. Ond yr oedd yn gwybod yn iawn mai ofer oedd y cwbl heb dawelu'r cynnwrf yn ei enaid. Ar wahân i hynny amhosibl oedd camu ymlaen. Rhaid iddo'n gyntaf gyf- iawnhau ei act fawr gerbron y byd. Rhaid iddo ddodi ei fedd- yliau'n glir ar bapur, rhoi trefn ar ei syniadau, a dangos felly'n effeithiol nad gwrthgiliwr haerllug mohono ond newyddian mewn ffydd arall. Dyna paham yr eisteddodd i lawr i sgrifennu ei gyffes newydd, ei Avenir de la Science, Dyfodol Gwyddon- iaeth." Ym mis Hydref, 1848, cefais fy hun wyneb yn wyneb â myfi fy hun. Teimlais yr angen am wneud datganiad o'r ffydd