Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad. MORGANNWG, Cymdeithas Hanes Lleol Morgannwg. Vol. I. 1957. Pris heb ei nodi. Tt. 67. Cylchgrawn newydd hanesyddol yw hwn sydd yn debyg yn ei amcanion i Brycheiniog, Ceredig, a Chylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd. Yr oedd hir ofyn am gylchgrawn o'r fath sydd yn rhoddi ei holl sylw i hanes cyfoethog a chyfnewidiol Sir Forgannwg. Wrth reswm fe roir cryn dipyn o Ie i archaeoleg hefyd. A da o beth yw hyn hyd yn oed os yw'n angenrheidiol, weithiau, i'r arohaeolegwyr ail wampio nifer o ffeithiau a adroddir hefyd 'yn y B.B.C.S. fel y gwnaethpwyd yn yr adroddiad am y cloddio yn Ninas Powis gan Leslie Alcock. Dwy ysgrif Gymraeg a geir yn y gyfrol gyntaf hon adolygiad gan y Dr. Henry Lewis o Iolo Morganwg igam yr Athro G. J. Williams ac erthygl gan yr Athro G. J. Williams ar Ddyddiadur William Thomas o Lan- fihangel-ar-Elâi gyda dyfyniadau o Saesneg y dyddiadur. Fe ddaeth ar draws y dyddiadur wrth chwilio am fanylion am fywyd ym Morgannwg yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, sef cyfnod Iolo Moíganwg. Er na roir gair am Iolo ei hun fe geir yma lawer o fanylion diddorol am fywyd crefyddol a chymdeitihasol Dwyrain Morgannwg yn y cyfnod hwn, fel: A Thunderbolt of a Methodist preacher," meddai am George Philip o Gastell-nedd; "He separated with Howel .Haries in ye division, but sinoe returned and continued to preach & correot both the preachers and hearers of their soft lives, gay wearings, and dainty Eatings, and a very severe reprover of vice in all sorts and a sound predestinarian." Doniol iawn yw rhai o'r manylion am y gwylmabsantau a'r ymladd ceiliogod "Tihis 2 days a great cock matoh was fought by Twlc yr hwch 21 cocks a side for ios. 6d ye battle by Edwd. William ye Innkeeper at the Twlc. Lewis William ye feeder and others of ye one side and ye Innkeeper of Ton dwylis, Thomas Wm Water of Caerphilly ye feeder of ye otlher side. Much noise and swearing amd cursing ye 3 days. Such work brings but ye curse of God upon ye generation." Ar ddiwedd yr erthygl fe roir crynhoad o'r cynnwys yn Saesneg, gan ddilyn, efallai, arfer cylchgronau ysgollheigaidd yng ngwledydd bychain y Cyfandir. Yr Athro Glanmor Williams, M.A., F.R.Hist.S. (Coleg Aber.tawe) a Gwynedd O. Pierce, Ysw., M.A. (Coleg Caerdydd) yw golygyddion y cylchgrawn newydd. Pob hwyl iddynt yn eu hantur. K. BOSSE GRIFFITHS. Abertawe.