Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wn ddwend, er enghraifft, am unrhyw gyfnod yn y gorffennol, ar ôl chwilio'r holl dystiolaeth a feddwn, fod hyn a hyn wedi digwydd ar y pryd a'r pryd, ac os bodlonwn ar gyfres o ddat- ganiadau o'r natur yma byddwn yn ddiau wedi llunio cronicl o ddigwyddiadau. Ond nid digwyddiadau yn unig mo hanes. Y mae'n ymdrin a meddwl a hyd yn oed â theimladau dynion. Hyd yn oed os bodlonwn i'r cronicl ffeithiol, ni allwn fyth fod yn siwr ein bod wedi casglu'r holl ffeithiau angenrheidiol a phwyso'r holl dystiolaeth. Gall tystiolaeth newydd ddod i'r golau, a gellir darganfod ffeithiau newydd a eill orfodi newid cynnwys ein cronicl a'i drefn. Tybed hefyd nad oes yn ein hymwneud â threigl amser ac â bywyd dyn mewn amser ryw ffactorau na all na llyfrau na dogfennau na llafur yr archaeoleg- ydd eu dangos yn llawn ? Heb ystyried y rhain, bydd ein darlun o'r gorffennol, a'n cyflwyniad ohono, fyth yn anghyflawn, ac felly yn y pen draw yn anghywir. Nid awgrymu yr ydwyf fod tasg yr hanesydd yn ofer, ac yn sicr ni fynnwn ochri gyda Henry Ford a ddywedodd unwaith, os gwir y stori, mai lol i gyd oedd hanes. Yr hyn y carwn i ei bwysleisio yw ein bod ni ein hunain yn rhan anorfod o hanes. Am hynny, caiff pob cenhedlaeth yn ei thro olwg newydd ar y gorffennol. Hyd yn oed os na chasglwyd ganddi wybodaeth ffeithiol newydd am a fu, bydd safle pob cenhedlaeth mewn hanes yn wahanol i'w rhagflaenwyr. Yn y pen draw felly, pa mor wrth- rychol bynnag y bo'n hagwedd, dehongliad o'r gorffennol fydd pob hanes, dehongliad mwy neu lai arwyddocaol, ac ni all fod yn amgen. Gellir mynd ymhellach yn wir, a hawlio mai'r hyn sy'n bwysig i unrhyw gymdeithas ddynol ar unrhyw adeg mewn amser yw nid yn gymaint beth a ddigwyddodd yn y gonffennol eithr yn hytrach yr hyn a gredwn a ddigwyddodd, a pha ar- wyddocâd a roddwn i'n cred. Lliwir ein dehongliad yn ddiar- wybod gan amgylchiadau'r presennol, gan ein delfrydau a'n gobeithion a'n hofnau presennol, a'r hanesydd mawr yw'r saw] sy'n canfod orau wrth syllu ar y ffeithiau ddehongliad o'r gor- ffennol sy'n ystyrlon i'w ddydd a'i gyfnod ei hun. Daw'r dehongliad yn aml yn rym yn y gymdeithas, a gall y grym hwnnw weithiau, oblegid grym syniadol ydyw, drawsffurfio'r presennol ac ysbrydoli'r dyfodol.