Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ceffyl Gwedd. Diamen yw, y Duw Mawr Gerfiodd dy ffurf gyhyrfawr. Gewynnau yw d'ogoniant, A chynnwrf gwych nerfau gant Amdanat yn ymdonni Yn gywrain dan dy groen di. Gwar a gwddf i gywir gau Y gosgeiddig ysgwyddau Esgeiriau heb seguryd, Di-fraw a dyfal dy fryd. Dy arrau fel seddau sydd, Dwy golofn gyda'i gilydd; Y coesau cydnerth casol, Hardded ynt wrth droi pridd dôlj Dy fynwes a dyn dresi, Ni wrthyd hon nerth i ti. Rymused ar y meysydd Dy rodiad o doriad dydd! Hyd yr hwyr rhed yr oriau Heb laesu o'r tynnu tau. Ni flini gam o flaen gwŷdd, Dyfalaf, dihefelydd; I air gwas sy'n gyrru gwedd Di-ogan yw dy agwedd: Arafaidd weithiwr ufudd, Yn troi'r âr yn bentwr rhudd, Yn awr dy hun, yn awr dau, 'N aredig llain i'r ydau. Neu yn chwys, yn un o chwech, Drwy lymdra durol ymdrech, Pwysfawr fen, gwagen o goed Gynt lusgit, gant, 0 lasgoed. A wnest erioed, was at raid, Gamwri i'th gymheiriaid?