Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Paradocs. "XID oes neb erioed," meddai Nietzsche, wedi cyhoeddi Dyna yw hyn heb i ryw genhedlaeth ddiweddarach a mwy manwl ddarganfod nad oes i'r geiriau ystyr amgen na "Dyna a olyga hyn.' Gallasai fod wedi ychwanegu mai odid y dywed- odd neb erioed Fel hyn y mae" heb i rywun ddod ar ei ôl a dweud "Na, nid fel hyn y mae, ond fel hyn y mae'n ymddang- os." Ac yn wir, y mae'r gwahaniaeth rhwng yr ymddangos a'r bod yn un mor drawiadol ac i'w ddarganfod mor aml ac mor fynych nes bod corff mawr y ddynoliaeth wedi magu rhyw sgeptigiaeth, sgeptigiaeth a fynegir mewn diarhebion fel "Nid aur popeth melyn," "Nid cyfoeth pob ennill," "Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," neu "Nid wrth ei phryd y mae caru merch." Ac eto y mae rhyw naifder yn y galon ddynol sy'n dal i fynnu y dylai pethau fod fel yr ymddangosant, a mwy na hynny, y dylent fod fel y disgwylir iddynt fod. Felly, er bod pob mab wedi clywed nad wrth ei phryd y mae caru merch, eto nid oes odid yr un na theimlodd i'r byw rywdro neu'i gilydd y sioc o ffeindio nad yw'r ferch brydferth ei gwedd o anghenraid yn brydferth ei chalon a'i hysbryd, ac y mae profiad cannoedd y tu ôl i'r pennill syml: Mi wn am ferch yn Sir Forgannwg, Yn deg ei thwf, yn hardd ei golwg, A gwallt modrwyog, bronnau gwynion, A duwch uffern yn ei chalon. Wrth reswm, gyda'r blynyddoedd y mae'r rhan fwyaf ohon- om yn rhoi'r gorau i'r syniad y dylai pethau fod fel y disgwyl- iwn iddynt fod, ond hawdd y gallwn gydymdeimlo â'r beirdd sy'n dal i ymglywed â'r sioc o ddarganfod nad fel y tybier y mae, ac y mae rhai disgwyliadau wedi gwreiddio mor ddwfn ynom fel y mae'n anodd iawn i ni eu diwreiddio.