Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn debyg i bethau adnabyddus i ni. Gwisgoedd gwirionedd oedd seremoniau Moses, dillad gwirionedd oedd cyffelybiaeth- au y proffwydi, gwisgoedd offeiriaid yn helpu'r bobl i deimlo urddasolrwydd swydd offeiriad, a thrwy allanolion y gyffelyb- iaeth y gall y lliaws ddal cymdeithas a r gwirionedd. "Tebyg yw Teyrnas Nefoedd i A'r prawf o stori dda yw pa mor bell y gall y darllenydd neu'r gwrandawr ei roi ei hun yn gymer- iad yn y stori? 'R wyf innau wrthi'n ysgrifennu a cheisio dweud fy stori. Pam ? Cyflawni addewid ydwyf, â pharch mawr i'r Golygydd y gwnes yr addewid iddo. Ond nid efe yn unig a ddarllen yr ysgrif! Pwy gymer drafferth i ddarllen Y Traetiiodydd ond y rheiny sydd yn awyddus i ehangu eu gorwelion ac yn barod i wneud ymchwiliad rhesymegol i hyrwyddo eu deall ? Rhaid cofio serch hynny na ellir tynnu pob peth i lawr i lefel rheswm noeth a llafurus y deall, ac eto, ni ellir derbyn dim fel ychwan- egiad pendant at ein gwybodaeth os nad yw'n rhesymol. Mae pawb a phobun yn hoffi rhywbeth neu'i gilydd. Mae gan hwn ddiddordeb rhyfedd mewn anifeiliaid a 'd oes dim diwedd ar y stôr o wybodaeth mae wedi'i gasglu am wahanol anifeiliaid. Mae gan y llall ddiddordeb rhyfedd mewn trenau, a chan arall ddiddordeb anghyffredin mewn dynion fel y cyfryw. Gwir yw, hefyd, po fwyaf didwyll y diddordeb, po fwyaf o wybodaeth am y cyfryw a geisia; mae rhywfaint o'r gwyddon- ydd, yr ysfa am wybod y cwbl ym mhob dyn, eithr nid pawb sydd â'r amser na'r adnoddau i ddilyn yr ysfa bob cam o'r daith. Os ydym o ddifrif y mae'r ysfa yma yn sicr o'n harwain yn y pen draw i'r dechrau." Y mae dechrau popeth yn ddiddorol. Dyma ddau ddyn y fan yma yn gorffwys, a chael sgwrs ar y lawnt, nid ydynt yn eistedd fel dynion eraill, and maent ar eu penliniau gan eistedd ar eu sodlau. Pam eistedd felly ? O, dau hen golier ydynt, wedi bod yn gweithio mewn gwythïen fach! Yn yr ardal yma 'd oes ond un capel Bedyddwyr, a hwnnw heb fod yn fawr, dim ond dau gapel gweddol gan yr Annibynwyr, ond mae rhyw saith o gapeli gan yr Hen Gorff," a rhai ohonynt yn bur fawr. Pam? O, fe dreuliodd Howel Harris dipyn o amser yn yr ardal hon adeg y Diwygiad Methodistaidd.