Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyhuddodd yr Arglwydd Iesu arweinwyr crefyddol ei oes o ddiffyg darllen a dehongli arwyddion yr amserau. Yn eu canol, ond heb eu canfod! Gwarcheidwaid traddodiadau mwsoglyd oeddynt, nid proffwydi; a'u dallineb ysbrydol oedd eu damned- igaeth, fel yr aeth bwrw golwg dros ei hysgwydd yn fagl ac yn felltith i wraig Lot. A pheth ofnadwy ydyw byw mewn cyfnod llwythog o bosibiliadau, a bod yn esgeulus ohonynt. Modd bynnag, fe berthyn i'n dyddiau ninnau rai arwyddion awgrymiadol, dim ond i ni sylwi'n graffus o'n cwmpas. Distaw dranc Anghydffurfiaeth, a hynny mewn crefydd a gwleidydd- iaeth, dyna un ohonynt. Cenedlaetholi a chatrodi yr enaid dynol yw'r ffasiwn. Gwn yn eithaf da y dichon i un math ar hwyrfrydigrwydd i gydymffurfio fod yn ddim ond croesdyn- rwydd noeth, ie, crancyddiaeth anoddefgar. Awch am fod yn od yw weithiau­Øprotest y di-urddau yn y sêt gefn yn erbyn rhagorfreintiau tybiedig rhai yn y Set Fawr. Eto'i gyd, nid yw pob amharodrwydd i gyd-synio â'r mwyafrif yn tarddu o gym- hlethdod seicolegol yr wrthblaid. O bryd i'w gilydd, cyfyd Anghydffurfiaeth o weledigaeth ysblennydd. Ymyriad Duw yw ambell dro, nes i'r lleiafrif anhydrin fod yn "halen y ddaear," yn gydwybod aflonydd i'r lliaws. Nid gwastraff ar amser a fyddai i rywun o ddysg ac o ddawn roi i ni draethawd ar "Cyf- raniad y Bobl od"; ac wrth i mi grybwyll hynny, daw i'm cof enwau Elias a Huss, Shaftesbury a Lincoln, Harris a Savonar- ola, Hardie a Gandhi, Booth a George Muller. Unig, a phur amhoblogaidd oeddynt, mae'n debyg. Nid yw eilunaddolwyr y Gyfundrefn byth ar delerau da â rhai o dymer ac o dueddiad- au arloesgar, mwy nac y medrai Stanley Baldwin a Mr. Aneurin Bevan ddygymod a'i gilydd ym mlynyddoedd y datt ddegau. Erbyn heddiw, am lu o resymau, cymerth cydymffurfio slaf- aidd a thawedog le yr hen Anghydffurfiaeth. Bod yn debyg i'n gilydd, dyna'r arwyddair. Ofnir bod yn wahanol, rhag ofn bod ar wahân. Cytunir, rhag croesi cleddyfau. Er mwyn cyd- fyw yn heddychol, ymylir ar fynnu i ni ein hunain heddwch y fynwent. Cydymffurfio, hwnnw yw'r cult poblogaidd bellach. Y Gyffes Fer.