Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad. TRADDODIAD LLENYDDOL IWERDDON. Gan E. Caerwyn WiUiams. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Tt. 235. Pris, 15/ Cyn imi ddyfod i Gymru cefais y profiad, am ychydig flynyddoedd, o dreio rhoi gwybödaeth am hen lenyddiaeth Iwerddon i fyfyrwyr a oedd yn ymgodymu o hyd ag elfennau'r hen iaith. O'r herwydd yr wyf yn bur gyfarwydd ag anawsterau'r gorchwyl o ddysgu hanes, a thrafod cynnwys, llenyddiaeth na all eich gwrandawyr mo'i darllen yn iawn heb gymorth athro a geiriaduron a rhyw gymaint o ddyfalbarhad personol. Ond yn ychwanegol at yr anawsterau cynhenid hyn yr oedd y ffaith nad oedd un- rhyw lawlyfr boddhaol ar lenyddiaeth Wyddeleg i'w <gael. Nid oedd llaw- lyfr o unrhyw fath i'w igael mewn Gwyddeleg ac o'r ddau neu dri mewn Saesneg mae'n debyg mai A Text-Book of Irish Litcrature, gan Miss Eleanor Hull oedd y mwyaf defnyddiol ar 'gyfer gwaith dosbarth. Ond pa mor rhag- orol bynnag oedd hwn pan sgrifennwyd ef hanner can mlynedd yn ôl, mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn ddiffygiol iawn erbyn heddiw, gan fod astudiaeth o'r iaith a'i llenyddiaeth wedi datblygu cymaint yn y cyfamser. Cydnebydd pawb sy wedi ymegnïo i ddysgu ei fyfyrwyr sut i wybod ac i werthfawrogi cynnwys hen lenyddiaeth fel sydd i'w chael mewn Gwyddeleg, fod rhaid wrth lawlyfr dibynadwy fel sail i'r drafodaeth fwy personol a roir mewn dosbarth. Eto, da y cofiaf imi betruso sawl gwaith ar ddechrau'r flwyddyn cyn sôn wrth y dosbarth am lyfrau fel un Miss Hull, wrth gofio eu bod mor fylchog ac nid 'yn anaml yn hollol gamarweiniol. Y syndod yw na fyddai rhywun yn ystod y blynyddoedd diweddar hyn wedi mynd ati i lunio llawlyfr Saesneg neu Wyddeleg i gyflenwi'r angen. Ond beth byrmag am hynny, dyma un o'r diwedd, ac un rhagorol hefyd, wedi ei sgrifennu, yn Gymraeg, gan Athro Cymraeg Coleg Bangor. Mae'r ffaith nad oes yr un llyfr Saesneg na Gwyddeleg yn cyfateb i'r llyfr Cymraeg hwn yn dangos yn ddigon clir fesur y gwaith a gyflawnodd yr Athro J. E. Caerwyn Williams. Bydd yn llawlyfr gwych, wrth gwrs, ar gyfer efrydwyr llên Wyddeleg Iwerddon, ond, yn ogystal â hynny, fe deifl gryn oleuni ar hanes a datblygiad llenyddiaeth 'Gymraeg i'r sawl sydd â'i brif ddiddordeb yn y maes hwnnw. Dyma ddwy gymdeithas a'u gwreiddiau diwylliannol yn debyg iawn i'w gilydd i raddau helaeth, a'r ddwy mewn cyfathrach â'i gilydd am 'ganrifoedd lawer. Fe ddengys y cipolwg mwyaf arwynebol rai o'r cyfatebiaethau ,amlycaf .rhwng y ddau draddodiad cyfnod y seintiau a'r mynachlogydd yn y ddwy wlad gyda'u dylanwad ar y diwylliant brodorol; y farddoniaeth delynegol sydd mor debyg ei naws yn y ddwy wlad; ail- drefnu'r farddoniaeth oddeutu ail thanner y ddeuddegfed ganrif gan sefydlu cyfundrefn gaeth o fydryddu a bery tan yr ail ganrif ar bymtheg, pryd y gwelir dirywiad y gymdeithas wleidyddol a roes fodolaeth i alwedigaeth