Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Parch. T. J. Wheldon, 1900. Ef sy'n siarad, a sylwch ar y flwyddyn,-drigain mlynedd yn ôl namyn un! Cafwyd yr anerchiad mewn pamffledyn amherffaith, wedi colli ei ddechrau, ond tybiaf mai at wasanaeth yr Ysgol Sul yn Ffestiniog y bwriedid ef. Dilynwyd orgraff hwnnw. Sylwch hefyd mor rhyfeddol oedd craffter gwelediad y siar- adwr, ac fel y deallai arwyddion yr amserau, ei oes ei hun, a'r un a ddilynai. "Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny!" Credaf fod ganddo genadwri amserol i'r oes hon.-I.W. ANERCHIAD Y Parch. T. J. WHELDON, B.A., Bangor, Draddodwyd yng Nghapel y Garregddu, Nos Fawrth, Mai 8fed, 1900. Hyfrydwch mawr i mi ydyw cael bod gyda'm hen gyfeillion a chydweithwyr yn y Blaenau unwaith eto. Dwg yn fyw i'm cof ymdrechion blynyddoedd a fu i gryfhau y Cyfarfodydd Ysgolion ac i ddwyn gwaith yr Ysgol Sul i fwy o effeithiol- rwydd. Y mae llu erbyn hyn yn gafaelyd yn y gwaith heb wybod dim am yr anhawsderau yr aethom trwyddynt, ac wedi derbyn yr hyn sydd yn awr fel etifeddiaeth i ofalu amdani ac i'w gwella. Ac y mae yn llawenydd dirfawr i mi weled y meibion a'r merched ieuainc sydd yma, llawer o honynt wedi cael addysg dda, yn ymaflyd gyda'r fath frwdfrydedd yn y gwaith. Cwynai un o honynt mai cymysg lawenydd a thristwch sydd gyda'r gwaith, ac felly y mae: "Y rhai sydd yn hau mewn dagrau a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo ac yn wylo, gan ddwyn" — cario baich, dwyn a dwyn­-"gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau." CyFROL CXIV. Rhif 491. Ebrill, 1959. E