Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Calfin a'r Ysgrythurau. Dywedwyd yn aml mai'r hyn a wnaeth y Diwygwyr Protestan naidd oedd gosod i fyny'r Beibl fel awdurdod yn lle'r Eglwys neu'r Pab. Dyna farn yr hanesydd A. F. Pollard, er enghraifft, "Yn erbyn anffaeledigrwydd yr Eglwys gosododd y Diwygwyr a'r Protestaniaid diweddarach, anffaeledigrwydd yr Ysgrythur- au." Ac fe gofiwn ddywediad William Chillingworth­-"Y Beibl a'r Beibl yn unig yw crefydd Protestaniaid." Mae llawer o wir, wrth gwrs, yn y gosodiadau hyn, ond nid y gwir i gyd chwaith. Fel y dywed J. S. Whale yn ei lyfr, The Protestant Tradition, td. 129, wrth gyfeirio at osodiad Chillingworth, Certainly neither Luther nor Calvin would have endorsed this easy generalisation as it stands." Mae gofyn cofio bob amser fod Eglwys Rufain yn ogystal â'r Diwygwyr yn cydnabod awdur- dod y Beibl. O ganlyniad, nid yw Calfin, er enghraifft, yn gweled angen am ddadlau'n faith dros awdurdod yr Ysgrythur Seiliau'r awdurdod hwnnw a'i natur yw'r hyn y mae ef yn dadlau drosto. Iddo ef, y mae'r Beibl nid yn unig yn ffynhonnell cen- adwri'r Eglwys, ond hefyd yr unig awdurdod y mae'n rhaid iddo reoli ei bywyd. Ystyria gan hynny, osod i fyny'r Eglwys neu draddodiad fel awdurdod ar y Beibl, fel y gwnai Eglwys Rufain, yn ddim llai na haerllugrwydd. Ac ni wnaeth neb fwy na Chalfin i ddangos gwir natur awdur- dod y Beibl. Fe ail-ddarganfu Liwther o'i flaen genadwri ganol- og y Beibl ac ennill lIe iddo o'r newydd ym mywyd ei gyfoes- wyr, ond John Calfin gyda'i feddwl clir, trefnus a rhesymegol a fynegodd o'r newydd le'r Beibl ym mywyd yr Eglwys. Uwch- law popeth arall, diwinydd Beiblaidd oedd. Nid oedd ganddo ddiddordeb mewn damcaniaethu, — egluro'r Beibl, ac nid athron- yddu, na mynegi ystyr profiad crefyddol, yw tasg fawr diwinydd yn ei olwg ef, ac fel cymorth ac arweiniad i ddeall y Beibl y bwriadai ei glasur diwinyddol, yr Institutcs. Fe'i disgrifir ganddo fel "swm yr hyn a gawn y dymuna Duw ei ddysgu i ni yn ei Air,"