Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Theomemphus: Pryddest Williams, Pantycelyn. DARLUN ydyw'r gan hon o brofiadau dychweledigion y Seiadau Methodistaidd cynnar, darlun o dywydd ysbrydol pechadur a ddychwelwyd o brofi pechod yn ei gyflawn rwysg a'i allu, pech- adur duach na phererin Bunyan. Lluniwyd y llestr o'r newydd tan law'r crochenydd. Cnwd ysbrydol a ffrwyth gweledig y diwygiad oedd y dynion hyn. Os gallu newydd yn hanes y byd ydyw Cristionogaeth, sef ysbryd cariad a gostyngeiddrwydd y mae'r gallu gwrthwyneb, sef ysbryd balchder mor hen â dreigiau'r cynfyd. Rhwng y ddau allu a'r ddwy deyrnas y mae rhyfel ysbrydol yn bod. Swn y rhyfel hwnnw yw cyweirnod y gan hon. Cyrhaeddodd ysbryd y Diwygiad Protestannaidd o'r diwedd werin Cymru. Proffwyd unig o flaen ei oes ydoedd Morgan Llwyd, lladmerydd syniadau na fu'r eglwysi hyd y dydd heddiw yn aeddfed i'w derbyn. Ychydig o sôn fu am ei lyfrau yng Nghymru hyd y ganrif bresennol. Llenor neilltuedig hefyd ydoedd Elis Wynne; ond bu Williams, Pantycelyn, fyw yng nghanol y cyffro mawr a effeithiodd ar werin y genedl. gan beri gwedd a diwyg newydd ar fyd ac eglwys yng Nghymru. Tywalltwyd doniau ysbrydol ar led ymhlith dynion, hyd oni fedrai emynydd dinod ganu am ryw obaith mawr, sef cyfodiad haul cyfiawnder mewn disgleirdeb a grym. Amser i ganu caniad newydd ydoedd, mewn disgwyliad brwd am ryw ddedwydd haf. Clerigwyr urddol ydoedd seintiau Cymru gynt. Gwŷr llên tan adduned gweddwdod oeddynt. Y mae'r ffin oesol bellach wedi ei dileu, canolfur y gwahaniaeth rhwng Uên a lleyg wedi ei datod, a'r dyn cyffredin wedi troi'n grefyddwr. Y Seiad Feth- odistaidd ydoedd noddfa'r dychweledigion hyn. Bu raid iddynt dramwy trwy'r byd gan ddilyn eu galwedigaethau syml di-glod, wynebu cyfrifoldeb priodi a phlanta, a cheisio athrawon cymwys i'w harwain ym mhynciau pwysig buchedd a chred. Gwahoddir tyddynnwr a chrefftwr bellach i droi'n grefyddwr; ond er bod Pantycelyn yn Brotestant cadarn, tueddai yntau i liwio manteis- ion y bywyd dibriod.