Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

( Lle yr oeddwn i gynt yn ddall, yr wyf yn awr yn gweled.") Tu hwnt i anial fyd Pontarddyfi, Machynlleth. Draw mi Welaf." Caf rywbryd ddod i dre, A chyrraedd hafan glyd Dan awyr las y ne', A chofio'r garw droeon fu "Ar ddyrys daith i'r Ganaan fry." Caf weld cymdeithion gwiw A aeth o'm blaen i'r wlad Lle na all pechod fyw- Caf weld fy mam a 'nhad; A gwylio'r golau ar eu gwedd I minnau hefyd goncro'r bedd. Caf weld yr Addfwyn Oen Fu farw yn fy lle A thrwy ei ddirfawr boen Agorodd ffordd i'r Ne': Caf weld ei wên a'i hyfryd drem Tu hwnt i hwrdd pob storom lem. W. D. P. DAVIES.