Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad. DRYCH YR AMSEROEDD, gan Robert Jones, Rhos-lan; golygwyd gyda Rhagymadrodd gan G. M. Ashton. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1958. Tt. 129. Pris 8/6. Yn ôl ei Gofiant gwr oedd Robert Jones, Rhos-lan (1745­-1829), fel llu o Gymry enwog, a fu'n ffodus yn ei fam, gwraig a ragorai yn ei gofal am addysg a magwraeth dda i'w phlentyn. Yr oedd yntau yn fachgen ym- roddgar ac er na chafodd fwy na chwech wythnos o ysgol tyfodd i fod yn ddarllenwr mawr, yn brynwr llyfrau o bob math, yn arbennig llyfrau ar ddiwinyddiaeth. Gwnaeth ddefnydd da o'i lyfrgell a thrysorodd yn ei gof lawer o'r hyn a ddarllenodd. Fel un o ysgolfeistri cylchynol Madam Bevan bu'n dysgu mewn amryw leoedd yng Ngwynedd ar hyd ei oes. Y lle a gysylltir yn anwahanadwy â'i enw yw Rhos-lan, Llanystumdwy, lle y car- trefodd am dair blynedd ar ddeg yn Xhir-bach uchaf. Yn dair ar hugain mlwydd oed y dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Dywed- ir nad oedd llawer o eneiniad ar ei bregethu ond ei fod yn athro ysgol rhagorol iawn. Gwr doeth ei gyngor ydoedd, gŵr mwyn a siriol a thyner ei gydwybod. Ond ei waith llenyddol a'i hanfarwolodd, ac o'i weithiau yr enwocaf ond odid yw yr olaf, Drych yr Amseroedd, a gyhoeddwyd yn 1820, ac yntau yn bymtheg a thrigain mlwydd oed. Dechreuasai gyhoeddi gyda'i Ymddiffyn Crisfnogol yn 1770, a'i ddychan deifiol (yn yr ail argraffiad yn 1776, a phob argraffiad o hynny ymlaen, defnyddiwyd teitl arall, sef Llefcrydd yr Asyn). Bu'n arloeswr hefyd fel casglwr emynau ond condemniwyd ei Grawn-syỳỳiau Canaan, neu Gasgliad o Hymnau (179^) am iddo glytio penillion o wahanol emynau a chan wahanol emynwyr wrth ei gilydd heb nodi eu hawduron ac yn arbennig am iddo feiddio newid y testun yn ôl ei fympwy ei hun. Yn Nrych yr Amseroedd, a dyfynnu rhan o ddalen-deitl yr argraffiad cyntaf, ceir ychydig o hanesiaeth am y pethau mwyaf nodedig a ddigwyddasant yn bennaf y'Ngwynedd, yn y ddwy ganrif ddiweddaf, mewn perthynas i grefydd." Cronicl bras ydyw ar ddull ymddiddan rhwng Ymofyn-gar a Sylwedydd o hanes crefydd yng Nghymru, ac yn arbennig yng Ngogledd Cymru, o gychwyn Ymneilltuaeth hyd ddydd yr awdur ei hun. Adroddir am anwybodaeth ac anfoesoldeb y cyfnod a ragflaenai'r Diwygiad Method- istaidd; am gyfieithu'r Ysgrythur i'r Gymraeg am y goleuni a ddaeth yn sgîl yr ysgolion cylchynol, y Gymdeithas Ledaenu Gwybodaeth Gristionog- ol, y Feibl Gymdeithas, yr Ysgol Sul a phregethiad yr Efengyl; am wrth- wynebu ac erlid arweinwyr y Diwygiad ac am ddoniau a duwioldeb y tadau. Fel llyfr hanes prif ddiddordeb y gwaith yw'r dull y cofnodwyd "y pethau mwyaf nodedig" a'r modd yr amlygir agwedd yr awdur. Ar y cyfan trefnwyd y defnyddiau yn foddhaol. Nid rhestr ddi-gyswllt o at- gofion ac adroddiadau ail-law sydd gan Robert Jones ond plethwaith celfydd