Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Diwinyddiaeth Paul Tillich. Y tri dylanwad pennaf ar ddiwinyddiaeth ein cyfnod ni yw Tomistiaeth, Dirfodaeth (Existentialism) a'r Galfiniaeth Newydd. Sylfaen Tomistiaeth yw system athronyddol Tomas Aquinas, ac ymhlith y diwinyddion Pabyddol ac Uchel-Eglwysig y gwelir ei dylanwad hi drymaf. Â Dirfodaeth a ni yn ôl at Kierkegaard; y mae ei ddylanwad yn drwm iawn, nid yn unig ar ddiwinydd- iaeth, ond ar athroniaeth a llenyddiaeth ein cyfnod hefyd. A chysylltir y Galfìniaeth Newydd ag enw Karl Barth, a wnaeth fwy na neb yn ystod y ganrif hon i drawsnewid diwinyddiaeth Brotestannaidd. Yn yr erthygl hon, ceisiaf edrych ar Paul Tillich fel un sy'n ceisio cyfuno yn ei system ddiwinyddol y tri dylanwad yma. Yn ei syniad am Dduw, yn fwyaf arbennig, y gwelir dylanwad Tomistiaeth arno. Yn ei syniad am ddyn, yn fwyaf arbennig. y gwelir dylanwad Dirfodaeth arno. Ac yn ei syniad am yr Iachawdwriaeth yng Nghrist, yn fwyaf arbennig, y gwelir dylan- wad y Galfiniaeth Newydd arno. Byddaf yn dibynnu yn yr ymdriniaeth hon, bron yn gyfan- gwbl, ar ddwy gyfrol y Systematic Theology. Ond hoffwn gymell y rhai sy'n eu cael hwy yn ormod o dreth i ddarllen ar bob cyfrif y ddwy gyfrol o bregethau a gyhoeddodd Tillich, The Shaking of the Foundations a The New Being. Ceir ei ddiwin- yddiaeth yn y ddwy gyfrol hyn, nid fel cyfundrefn, ond yn y ffurf o bregethau cyrhaeddgar ac ysgytiol. Yn ôl a glywaf, y mae llawer o bregethu arnynt ac ohonynt! i. Tomistiaeth (Syniad Tillich am Dduiu). Sylfaenodd Tomas Aquinas ei holl ddiwinyddiaeth ar y syniad o Dduw fel bod pur (pure being). Cafodd yr awdurdod ysgryth- urol i hyn yn nywediad enigmatig Duw wrth Moses: "Ydwyf yr Hwn Ydwyf." (Brysiaf i ychwanegu nad yw Tillich yn CYFROL CXIV. RHIF 492. GORFFENNAF, 1959.