Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyffelybiaethau T. Gwynn Jones. WRTH droi dail un 0 lyfrau'r Dr. T. Gwynn Jones yn ddiweddar ces achlysur newydd i ddotio at rai o'i gyffelybiaethau digymar. Trois wedyn i'r pum cyfrol hardd a gyhoeddodd Hughes a'i Fab — Manion (1930), Caniadau (1934), Beirniadaeth a Myfyrdod (1935), Astudiaethau (1936), a Dyddgiuaith (1937)— a chodi o'r naill ar ôl y llall rhwng tri a phedwar cant o'r cyffelybiaethau hyn. Ni wn i faint oedd dylanwad beirdd eraill ar ddoniau pryd- yddol a disgrifiadol T. Gwynn Jones. Beth bynnag, y mae'n edmygydd mawr o Dante, "Bardd yr oesau canol," fel y gelwir ef ganddo, ac Ossian Macpherson. Wrth ysgrifennu ar Dante meddai, "y mae pob rhan o'r Commcdia yn llawn o gyffelyb- iaethau barddonol prydferth, megis y disgrifiad o'r enaid yn dyfod o law Duw fel gerieth fach 'yn wylo ac yn chwerthin yn ei hafiaith'; cymharu torf o eneidiau yn y Purdan i yrr o ddefaid yn dyfod yn ofnog allan o gorlan, gan sefyll, llygadu a ffroeni, ac yna wneud y peth a wnêl y gyntaf; cyffelybiaethau lawer o ddigwyddiadau cyffredin bywyd. Yn y Purdan eto y mae mwyaf o farddoniaeth Natur, lliwiau'r wawr a'r blodau a'r dail, cryndod tonnau'r môr, goleuni'r haul a'r ser. O bopeth yn Natur, goleuni oedd hoffaf gan Ddante, ac yn ei Baradwys, goleuni yw'r cwbl; yn y pwynt hwnnw o wawl na ellid edrych arno yr oedd Duw." Wedi sylwi ar gyffelybiaethau T. Gwynn Jones gallaf yn rhwydd iawn gymhwyso a ddywed y bardd am Ddante ato ef ei hun. Yn ei ysgrif "O'r Neilltu" yn yr un gyfrol sonia'r bardd am yr hyfrydwch a gafodd "yn hogyn wrth ddarllen Ossian Mac pherson. Yn yr awyr agored yr oedd awdur y cerddi yn byw, pa un bynnag ai Ossian yn y drydedd ganrif ai Macpherson yn y ddeunawfed yw'r awdur." Gyda llaw, y mae T. Gwynn Jones yntau'n sôn gydag afiaith am y blynyddoedd y bu'n treul- io dyddiau "heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl, niwl a glaw, a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a