Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mawredd Oliver CromwelL* Bu farw Oliver Cromwell ar y trydydd dydd o Awst, 1658, a chladdwyd ef nid heb rwysg a phomp­-gymaint ag a oddefai'r weriniaeth o'r cyfryw-ym mis Medi. Ac yng ngeiriau cymrawd o Goleg All Souls" Rhydychen: Ni ellid llai er cof am un, pan baid dynion â'u cenfigen, y bydd anrhydedd iddo gan oes- oedd i ddyfod-anrhydedd tu hwnt i allu geiriau ei fynegi." Chwanegodd: "Ond cyn wired ydyw geiriau'r brenin doeth gynt; 'Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl.' Dychwelodd y brenin Siarl II o'i deithiau anfodd ar Fai 29, 1660, i Whitehall­-lle buasai farw'r gwr a'i gyrrodd ar ei berer- indodau. Wyth mis wedi hynny cymerwyd corff Cromwell yn ei arch o Westminster Abbey a'i hongian yn Tyburn, dienyddle teyrnfradwyr, o ddeg o'r gloch y bore hyd fachlud haul ac yna ei gladdu yno dan y crogbren. Dodwyd y pen ar drostan ar Westminster Hall, yn beth i'w wawdio a'i felltithio gan y dorf. Dyna a fu rhan Oliver Cromwell. Wedi rhwysg ei gladdu ymhlith mawrion y deyrnas yn 1658; ac yn 1661 crogbren yn Tyburn. A hir y bu pobl y brenin yn pentyrru malais a gwarth ar ei ben er gwneuthur merthyr a gwyngalchu un arall na allai cyfeillion na gelynion ymddiried yn ei air, a phardduo'r Am- ddiffynnwr a'r Piwritan. Cynddaredd a llid a fu ei ran yn hir, a phrin y cododd am ddau can mlynedd neb i'w amddiffyn na gwerthfawrogi ei waith. Ond mawr yw'r gwir ac nis gorchfygir. Cyhoeddodd Thomas Carlyle yn 1845 ei Letters and Speeches of Oliver Cromwell. Troes y llanw wedi distyll. Tywynnodd goleuni nid ar y werin bobl yn unig, ond hefyd ar haneswyr proffesedig. Tystiodd yr hanesydd S. R. Gardiner yn 1863: "Yn ei fyd ei hun, byd gweithredoedd a llywodraeth, saif 'Oliver Cromwell yn y lle y saif Shakespeare ym myd celfyddyd." "Gwr mawr," ebe un arall, "ac eang ei feddwl, a'i weithredoedd wedi ei or- oesi ac wedi trawsnewid hanes Prydain." Er hynny parhaodd ac erys eto'r ddwy ddedfryd. Hyd yn oed pan addefir iddo allu a mawredd, eto gallu gormeswr a gelyn rhyddid a briodolir iddo. Maurice Ashley, The >Greatness oj Oíìver Cromwell.