Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Euros Bowen. Awst, 1948 oedd hi, yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont- ar-Ogwr, pan enillodd y Parch. Euros Bowen y goron am ei bryddest O'r Dwyrain. Ni wyddid nemor ddim amdano fel bardd cyn hyn, er bod enw'r teulu'n adnabyddus ym myd llen Ben Bowen, ei ewythr, y bardd ifanc hwnnw a fentrodd sôn ormod am Gymru a thragwyddoldeb, ei ewythr Myfyr Hefin, ei dad Orchwy Bowen wedyn, a'i frawd Geraint yntau a oedd newydd ennill y Gadair yn Aberpennar am awdl grefftus i'r Amaethwr. Dyma deulu awengar a wnaeth gyfraniad nod- edig i'n barddoniaeth. Ymron ddeng mlynedd yn ddiweddarach ar ôl ennill ei goron gyntaf dyma weld cyhoeddi cyfrol o'i waith o dan y teitl Cerddi. Cynnwys y gyfrol bron y cwbl o'i waith fel bardd, a gellir ei hys- tyried fel ffrwyth a chyfraniad darn helaeth o oes o fyfyrdod a disgyblaeth. Gellir bod yn dra sicr y buasai gweld cyhoeddi cyf- rol o fath hon wedi creu cryn gytffro mewn gwlad a'i beirniad- aeth lenyddol yn effro a byw, oherwydd dyma gyfraniad arben- nig i gelfyddyd barddoniaeth a'i gweledigaeth hi. Gobeithiwn fedru dweud digon amdani i roi cip ar ei gogoniant a dangos rhywfaint o'i phwysigrwydd yn natblygiad traddodiad bardd- oniaeth Gymraeg. Celfyddyd a gweledigaeth. Dyma eiriau pwysig sy'n allweddau i gyfoeth y gyfrol. I. Dechreuodd Euros farddoni mewn ffordd wahanol i'r rhan fwyaf o feirdd. Nid oes iddo gyfnod cynnar bardd ifanc antur- us o gwbl. Anturiaeth o fath arall sydd yma, anturiaeth yn codi o gyflawnder profiad. Yr oedd ef wedi darllen yn eang mewn diwinyddiaeth, athroniaeth a llenyddiaeth cyn dechrau barddoni. Yr oedd wedi cael golwg gyfan ar fywyd; edrychai arno 0 ben twr y cymerodd iddo flynyddoedd i'w adeiladu. Bydd y mwyafrif o'n beirdd yn ceisio codi'r twr a barddoni yr un pryd, camp anodd, yn dreth ar adnoddau unrhyw fardd. Onid camp am- hosibl? Dyna paham y mae diffygion yng ngweithiau beirdd