Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn symbol o'r parhaol. Nid yw malwen marwolaeth yn eu difa, oherwydd hi sy'n diffygio yn y pen draw A diffygia'r falwen wrth y bon: Y mae rhuddin y môr yn hen. Y mae'r mor yn symbol o'r parhaol, a pharaolder y mor a fedd pren bywyd y dail. Y mae hyn yn obaith. Yn yr un modd yn y gerdd Hyn Sy'n Fawl gorfoleddu yng ngobaith parhad bywyd y mae: Bywyd nid ydyw'n marw. Hyn sy'n fawl. Y mae'n iechyd i'n hoes ansicr ni fod bardd yn gallu canu fel hyn. Cofiwn am soned bardd mawr y cyfnod rhamantaidd, R. Williams Parry, i Farwoldeb, a'r llinell ofnadwy honno: Marwolaeth nid yw'n marw. Hyn sydd wae. Bardd y cyfnod gobeithiol a'i canodd, ac mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy linell yn nodedig o gofio'r gwahaniaeth rhwng cefndir meddyliol y ddau gyfnod y canwyd hwynt. Hoffwn son am un gerdd arall lle gwelir y gobaith gor- foleddus yn torri allan ar waethaf brwydr ffyrnig y tywyllwch. Efallai fod y mynegiant llawnaf o'r frwydr hon rhwng tywyll- wch a goleuni, nos a dydd, gaeaf a gwanwyn, wedi ei roi inni ym Myth Y Gwanwyn. Y mae Lleu yn cynrychioli'r goleuni, Dylan y tywyllwch, a Blodeuwedd y ddaear. Y mae Dylan yn ceisio trechu bywyd y flwyddyn newydd: I lan; daw Dylan o'r dwfn, Ei safn yn arllwys ofnau, A mor o gaswaith i'w ymwregysu ond y mae Lleu fel eryr goleuni yn hau ei had, ac ynddynt hwy gwelir blaguro buddugoliaeth bywyd Egino a wnânt wrth friw geunentydd, Yn fiwsig hael i'r anafus o'u cylch; Y ddaear a glyw'n ddiau Eirlysiau yr arloesi,