Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. BRANWEN DAUGHTER OF LLŶR, gan Proinsias Mac Cana. Gwasg y Brifysgol, Caerdydd. 1958. Pris 15/ O bedair cainc y Mabinogi, fe gytunir yn gyffredinol mai'r ail, sef Branwen, sy'n bradychu dylanwad y Gwyddel amlycaf. O bryd i'w gilydd tynnwyd sylw at ddigwyddiadau a themâu ynddi, nad oes amheuaeth eu bod o ffynhonnell Wyddelig. Er enghraifft, dangosodd Loth (Revue Celtique, XI, 345 yml-) fod cyfatebiaeth rhwng y stori am y ty haearn (PKM 36) a'r hanes a geir yn y Wyddeleg Mesca Ulad, a bod disgrifiad meichiaid Math- olwch o Fendigeidfran ar ei ffordd i Iwerddon (ib. 39. 21-26) yn ateb yn bur agos i'r disgrifiad o Mac Ceacht yn y gainc Wyddeleg Togail Bruidne Da Derga. Ymdrinia Miss Cecile O'Rahilly â rhai o'r cyfatebiaethau yn ei llyfr Ireland and Wales (tud. 1o4­14). Mae gwaith y diweddar W. J. Gruffydd ar geinciau'r Mabinogi yn ddigon hysbys. Ni chwblhaodd mo'i ddadansoddiad o Branwen, eithr fe gadwyd peth o ffrwyth ei astudiaeth yn ei gyfrolau, Math a Rhiannon, mewn erthyglau yn ogystal ag mewn rhai nodiadau o'r eiddo a gadwyd. Yn ôl Gruffydd dyma'r gainc a newidiodd fwyaf oddi wrth y patrwm gwreiddiol a oedd yn sail i'r chwedlau hyn. Yn wreiddiol, yr oedd yr ail gainc yn adrodd am gampau Pryderi, eithr disodlwyd yr hanes hwnnw i raddau helaeth gan amryw themâu eraill. Camp fawr Pryderi oedd ei ymgyrch i Annwfn i ddwyn oddi ar Ben Annwfn y trysor pennaf a gedwid yno, sef y Pair Dadeni, pair a allai adfer i fywyd y sawl a laddesid mewn rhyfel. Cymysgwyd y thema hon â stori Mordaith Bran, ohwedl Wyddeleg a adroddai am fordaith Bran mac Febail i'r Byd Arall, byd a leolir ar ynys ynghanol môr y gorllewin. Daeth y chwedl hon i'r Gymraeg mewn ffurf lafar drwy'r Goedeliaid a drigai ym mharthau gorllewinol y wlad, a newidiwyd Bran mac Febail yn Frân fab Llyr. Yn ddiweddarach, gweith- iwyd y cyfuniad o hanes Pryderi a hanes Bran i mewn i fframwaith thema'r Wraig a Gamgyhuddwyd, thema boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Nid oedd yr un arwyddocâd i'r pair bellach, eithr drwy'r holl gyfnewidiadau yr oedd wedi parhau yn rhan bwysig o'r stori, ac fe'i cadwyd yn y ffurf derfynol. At hyn, fe wewyd i mewn i'r stori ar ei hyd lawer o is-themau ac o hanesion, megis yr hanes am losgi'r ty haearn, yr aderyn cynhorthwy, y gorlifiadau, torri'r pen, y drws na ddylid ei agor, ailboblogi Iwerddon, y brawd tangnefeddus a'r brawd cynhenllyd. Cyf- etyb rhai ohonynt i themau sy'n digwydd yn llenyddiaeth Iwerddon, ac y mae dylanwadau Gwyddelig diamheuol ar y chwedl. "Ond yr oedd yr haenau sylfaenol yng ngwead yr ail gainc yn chwedlau hysbys yng Nghymru ers amser maith ac yn tarddu o lên gwerin y gymysgedd o boblogaeth Frythonaidd a Goedelaidd a drigai yn Nyfed a Gwynedd yn y canrifoedd cynnar." (Gw. LIC. iv, 129—34.)