Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i ni y defnyddiau angenrheidiol i ffurfio'r athrawiaeth. Mae'n bwysig iawn gwybod beth oedd syniad y Cristionogion cyntaf ac awduron yr Eglwys Fore amdanynt eu hunain, a sut y medd- ylient am Grist a'u cymdeithas â'i gilydd ar sail eu perthynas gyffredin ag Ef fel Arglwydd a Gwaredwr. Y peth cyntaf a welir wrth ddarllen y Testament Newydd yw gwybodaeth dry- lwyr ei awduron o'r Hen Destament a'r defnydd helaeth a wnaent ohono. Lluniwyd athrawiaeth y Testament Newydd am yr Eglwys yng ngolau'r syniadau crefyddol aruchelaf a geir yn yr Hen Destament. Defnyddiodd arweinwyr yr Eglwys Apos- tolaidd yr Ysgrythurau Iddewig i ddehongli eu safle grefyddol newydd fel Cristionogion. Meddylient am Grist, ac amdanynt eu hunain fel aelodau o'r Eglwys yn nhermau yr Hen Destament. Rhaid i ni ystyried y syniadau crefyddol yn yr Hen Destament a liwiodd athrawiaeth y Testament Newydd am yr Eglwys er mwyn gweld sut y dylid edrych arni a meddwl amdani. Dech- reuwn gyda'r syniad Iddewig am ddwy oes. Meddyliai r Iddew- on am ddwy oes, yr hen oes, a'r oes newydd. Yn yr hen oes addawodd Jehofa eu Duw fywyd llawn a dedwydd iddynt yn yr oes newydd. Enw clasurol Iddewiaeth ar yr oes newydd yd- oedd yr oes Feseianaidd, felly buont yn disgwyl am genedlaethau i wawr yr oes newydd dorri arnynt. Apeliodd y syniad Iddewig am ddwy oes at feddwl rhai o awduron yr Eglwys Fore. Yn yr Hen Destament gwelent gronicl o ddigwyddiadau'r hen oes, ac esbonient hanes eu cenedl yn nhermau paratoad ar gyfair yr oes newydd. Trwy gydol hanes Israel canfyddent Dduw'n dwyn ei fwriad i ben ac yn paratoi'r byd ar gyfair yr oes Feseianaidd. Ym mywyd, marwolaeth, ac atgyfodiad Iesu Grist fe gyflawn- wyd pwrpas Duw, hynny yw, fe dorrodd gwawr yr oes newydd berffaith. Ffordd arall o ddweud hyn yw fod Teyrnas Dduw wedi nesau ac wedi torri i mewn i amser a hanes. Yr oedd gan y Cristionogion cynnar argyhoeddiad pendant eu bod yn byw yn yr oes newydd. Diddorol yw'r cyferbyniad yn yr Epistol at yr Hebreaid rhwng addoliad amherffaith yr hen oes pan âi'r archoiffeiriad i'r cysegr santeiddiolaf unwaith bob blwyddyn i aberthu dros bechodau'r bobl, ac addoliad perffaith yr oes newydd, pan aberthodd Crist yr Archoffeiriad Mawr ei Hun, un- waith am byth, dros bechod ei bobl. Dengys T. W. Manson fod