Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bultmann.* Dyledwr i Barth yn bennaf yw Bultmann fel diwinydd. Canol- bwynt ei holl ddiwinyddiaeth yw'r ffaith o Grist. Gwêl yng Aghrist act unigryw a therfynol o ddwyfol ddatguddiad. Ei brif amcan yw dehongli'r act hon a'i heffeithiau ar fodolaeth dyn. Dyma egwyddor sylfaenol diwinyddiaeth Bultmann. Act bersonol yw datguddiad Duw ohono ei hun a ofyn ymateb per- sonol gan ddyn. Nid mewn dogma na defod, na hyd yn oed mewn rheolau moesol y gorwedd hanfod Cristionogaeth, eithr yn y berthynas bersonol a sefydlir gan Dduw â dyn yng Nghrist. Mynegir yr egwyddor hon gan Bultmann yn iaith Heidegger, gan ddweud mai i fyd bod (being) personol y perthyn datgudd- iad, ac nid i fyd bod amhersonol. Bod personol yn unig sy'n meddu bodolaeth. Gan hynny, gelwir diwinyddiaeth Bultmann yn ddiwinyddiaeth ddirfodol. Gwelir yr ystyr a roddir ganddi i'r gair "myth" yn y gwa- haniaeth rhwng bod personol a bod amhersonol. Golyga'r gair iddo unrhyw osodiad neu symbol na wna chwarae teg â natur bersonol Duw neu ddyn. Wrth ddatfythiad golygir ganddo yr ymgais i ail-ddehongli'r gosodiadau neu'r symbolau hyn mewn ffurf bersonol addas. Maentumia Bultmann ymhellach os yw act Duw yn bersonol fod iddi bedair o nodweddion, a galwaf fi hwynt yn bedwar maen prawf datguddiad. Ymdriniaf â'r cyntaf a'r ail. i. Act gyfamserol drosgynnol a chuddiedig yw act Duw Mae Bultmann fel Kierkgaard a Barth yn eiddgar i bwysleisio trosgynoldeb Duw. Megis hwythau arswyda rhag unrhyw system athronyddol (fel Stoiciaeth neu Hegeliaeth) a duedda at uniaethu Duw â'r byd. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall yn iawn beth a olygir wrth drosgynoldeb Duw. Fe'i camddeallir gan "Myth," wrth wahanu Duw nes peri nad oes mwyach un- Sylwedd anerchiad gan y Parch. H. Parri Owen, yn Undeb Athrofa'r Bala, yn I/andudno, Mai, 1959. Troswyd i'r Gymraeg gan y Parch. Richard Roberts.