Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau Nofelydd Greddf a Rheswm. Nofelydd Ffrangeg sy'n cael cryn dipyn o sylw ar hyn o bryd, nid yn unig ar y Cyfandir, ond yn y wlad hon a thros y dwr yw Joris-Karl Huysmans (1848 — 1907). Ymddangosodd braslun o'i yrfa a'i waith yn NHRAETHODYDD yr Haf, 1957. Yn ddiamau, un o'r rhesymau pennaf dros gyffredinolrwydd ei apêl ydyw perth- ynas bendant ei genadwri â bywyd cyfoes yn yr oes — ofodol — hon, sef mai crefydd yn unig yn y pen draw fedr ddatrys pob problem a ddichon godi. Yn ei ddau brif gymeriad, Jean des Esseintes, arwr A Rebours [Croes i'r Graen], 1884, a Durtal, arwr En Route, 1895, a'i weithiau crefyddol eraill), mae Huysmans wedi creu nid yn unig gymeriadau dychmygol sy'n datguddio ei bersonoliaeth amryliw ei hun, ond hefyd deipiau cyffredinol. Yn anad dim pwysleisir un agwedd sylfaenol o'u personoliaeth-eu hagwedd tuag at Grefydd: problem ddyrys i'r naill ac argyhoeddiad cadarn di- ysgog yn y llall. Ond hwyrach mai'r hyn sy'n tynnu ein sylw ni, tu yma i Glawdd 'Offa, yw'r ffaith fod y ddeuoliaeth hon a welir mor fynych mewn bywyd amheuaeth yn esgor ar sicrwydd i'w chanfod o'r newydd mewn nofel Gymraeg ddiweddar, sef nofel Islwyn Ffowc Elis, Yn ôl i Leifior, 1956. Y tebygrwydd nod- edig hwn rhwng Harri Vaughan, Elis a des Esseintes, Huysmans yw'r cymhelliad sydd y tu ôl i'r erthygl hon-tebygrwydd sydd yn fwy arwyddocaol fyth, am nad ydyw yn enghraifft o ddylan- wad un awdur ar y llall. Fe gofir mai stori am ddyn ieuanc wedi graddio ydyw Yn ôl i Leifior. Ac yntau'n gofalu am ei "ffarm gydweithredol" (td. 40), mae'n ysgrifennu traethawd ar ddylanwadau posibl Marcsi- aeth ar ardaloedd gwledig ein gwlad. I raddau helaeth, dan ddylanwad yr athrawiaeth gomiwnyddol a goleddwyd ganddo ers peth amser, ceisia Harri Vaughan ei ddarbwyllo ei hun nad oes