Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ryddid. Sut y dweda'i wrtho'ti, dywed? Mi deimlais fel fel petawn i'n cael 'y ngharthu'n llwyr, ac yn cael fy llenwi â dwr clir, glân, nefolaidd (tt. 324-343). Nid oes dim dramatig yn perthyn i'w dröedigaeth, nac ychwaith i dröedigaeth Huysmans ei hun. Dyma a ddywedodd arwr Elis mewn ffordd syml ac effeithiol, wedi bod yn gweddio am y tro cynta ers blyn- yddoedd lawer: 'R ydw i wedi darganfod fod Duw yn bod (t. 329), a 'Diolch, Iesu. 'R ydw i'n iawn rwan' (t. 343). Dywed crewr des Esseintes, hefyd, gyda'r un teimlad cyffrous a'r un symlrwydd: "'Gweddiais am y tro cynta, a dyna'r ffrwydrad yn digwydd (t. xxiii). Mae'r ddwy nofel hon,  Rebours ac Yn Ôl i Leifior, o werth mawr yn gymaint ag y trônt o amgylch yr hyn sy'n syl- faenol yng nghymeriad dyn mewn oed: yr ymchwil am wir hapusrwydd. Yn y gyntaf, mae'r ymchwil yn llwyddiant; yn yr ail, dim ond yn rhannol felly. Mae'r elfen grefyddol yn gynhen- id ynom i gyd. Os caiff fynegiant iach a rhydd, fel gan Harri Vaughan, wel, gorau i gyd; yna ceir hapusrwydd. Ond os atelir hi'n fwriadol-yn aml oherwydd rhesymau gau ac annigonol- fel gan des Esseintes, yna ceir, fynychaf, bersonoliaeth wyrgam heb ei chymhwyso'n iawn ar gyfer bywyd. Ym myd crefydd, rhaid i reddf, yn y pen draw, drarhagori ar reswm. Dyma un o'r amryw wersi gwerthfawr a ddysgir inni gan y ddau lyfr pwysig hyn, llyfrau nad ydynt o gwbl yn hollol grefyddol; ac am hyn, yn ogystal ag am nad oes ynddynt grefyddoldeb, chwaith, rhown ddiolch i'w hawduron. Ar yr un pryd, nid yw dweud eu bod yn fuddiol ac yn athrawiaethol yn tynnu oddi wrth eu gwerth. I'r gwrthwyneb, gwerddon ydynt yn anialwch llwm difaterwch materol ein cyfnod ni a chyfnod Huysmans. Am y rheswm hwn, mae  Rebours ac Yn ÔI i Leifior yn gyfatebol, y naill i'r llall. Gellir proffwydo yn ffyddiog na fetha'r genadwri sydd ynddynt a bod yn foddion cysur ac ysbrydiaeth i'r oesoedd a ddêl. Da iddynt gael eu hysgrifennu. W. Eirwyn Thomas,