Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iesu Efengyl Ioan. I. Yn ystod y chwe blynedd diwethaf cyhoeddwyd yn Saesneg nifer da o lyfrau yn ymdrin â'r Bedwaredd Efengyl. Nid cyf- artal mohonynt mewn gwerth. Gweithiau safonol ydyw rhai ohonynt, megis cyfrol fawr C. H. Dodd The Interpretation of the Fourth Gospel" (1953); esboniad byw C. K. Barrett (1955) ac eiddo R. H. Lightfoot (1956). Esboniad ar y testun Groeg ydyw un C. K. Barrett. Er rhagored ydyw, ni lwyddodd i ddi- sodli esboniad J. H. Bernard (1928) yng nghyfres yr Internation- al Critical Commentaries. Os ydyw Bernard braidd yn geidwad- ol ei syniadau a di-liw ei arddull, y mae ei nodiadau ar y testun Groeg yn llawn a thra gwerthfawr. Ond at waith arall y bwriadwn gyfeirio yn yr ysgrif hon, The Jesus of St. John, J. Ernest Davey, 1958. Adnabyddus yw Dr. Davey fel Prifathro Coleg Presbyteraidd Belfast. Cynnwys ei gyfrol drafodaeth ar Grist y Bedwaredd Efengyl mewn saith bennod. I. Rhagymadrodd, gyda nodiad helaeth ar Ioan o Effesus a'r Efengyl. 2. Colofnau sylfaenol yr hanes yn Ioan. 3. Temtasiynau Iesu. 4. Yr Athrawiaeth am Grist yn Ioan. 5. Dibyniaeth Crist yn ôl Ioan. 6. Arwyddocâd Athrawiaethol yr astudiaethau hyn, gyda nodiad ar lenyddiaeth ddiweddar ar Efengyl Ioan. 7. Gair terfynol. Dyma waith gwr a fu'n efrydydd diwyd o'r Bedwaredd Efengyl ers dros ddeugain mlynedd. Ysgrifenna yn fyw a thra phrofoclyd, ac amheuthun ydyw cael rhywun i draethu felly ar faes fel hwn. Y mae perygl i edmygedd dyn o'i hoff esboniwr dyfu'n addoliad ohono, ac i eilun-addoliaeth o'r fath fygu pob awydd am ymchwilio ymhellach i'r gwirionedd. Nid oes arlliw o beth felly yn y gyfrol hon. Nid amcanodd yr awdur at ym- driniaeth gyflawn o'r pynciau dan sylw ganddo. Yn hytrach, awgryma ffordd newydd o ymosod ar rai o broblemau dyrys yr Efengyl hon gan nodi ei safbwynt ei hun. Hydera y cyfranna'r