Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfrol at ein gwybodaeth o'r Efengyl a'u helpu i'w gwerthfawr- ogi fwy fwy. Awgryma'r awdur i ni ym Mhrydain bellach gael mwy na digon o gyfrolau yn ymdrin yn "llawn" â llyfrau'r Testament Newydd, ac yr honnid bod ynddynt "gyfraniad new- ydd ac annibynnol ar y maes hwn. Blinid ef o'u darllen a gweld ei fod yn ymlwybro trwy faes a'r rhan fwyaf ohono yn gwbl gyfarwydd iddo eisoes. Rhan fechan iawn o'r cyfryw lyfrau sy'n gyfraniad annibynnol a gwerthfawr, a gwastreffir amser i ddod o hyd iddo. Y mae lle, wrth gwrs, i esboniadau a llawlyfrau cynhwysfawr ar faes fel hwn. Ond angen y dyddiau hyn, medd ef, ydyw cyfres o astudiaethau ar agwedd neu ddwy ar y tro ar broblemau Efengyl Ioan, a'r rheini'n gymorth gwir- ioneddol i weld yr holl faes yn gliriach. Yn y gyfrol hon ym- esyd Dr. Davey ar ddwy broblem fawr loan," sef y broblem hanesyddol a'r un ddiwinyddol. Ceidwadol ar y cyfan a fu ysgolheigion Lloegr ar y materion hyn hyd y gymharol ddiweddar. Bu ysgolheigion yr Almaen yn llawer mwy rhydd, anturus a digymrodedd. Ond mewn ysgrif o'r eiddo yn y Listener (Tachwedd 12, 1953), sef adolygiad o lyfr mawr C. H. Dodd ar Ioan, gwelwn gam ymlaen. Clywn Dr. Davey yn y frawddeg gyntaf yn gollwng ochenaid o rydd- had megis, Dyma o'r diwedd lyfr a dyr ar draddodiad ceidwad- ol llyfrau Prydeinig ar y Bedwaredd Efengyl." Diddorol yw yr awdur ar rai o'r llyfrau pwysicaf a ymddangosodd yn ddiwedd- ar (gw. td. 174 — 9). Cydnebydd pawb bellach mai'r hyn a wnaeth loan ydoedd dehongli bywyd a gwaith Iesu o Nasareth, a bod y dehongliad hwnnw'n bennaf yr un diwinyddol. Testun llawenydd i efryd- wyr yr Efengyl ydoedd canfod mai esboniadau diwinyddol ydyw'r rhai pwysicaf a gafwyd yn ddiweddar. Ond yn yr awydd i bwysleisio'r elfen ddiwinyddol, gwthiwyd yr elfen hanesyddol bron o'r golwg. Deil Dr. Davey fod lle priodol i bwyslais Barth a'i ysgol, eithr gresyna oblegid eu hagwedd tuag at y cwestiwn hanesyddol. Cam yn ôl a gymerant yma ym maes ysgolheictod Beiblaidd. Ond cred i ddau ysgolhaig a ddaethai dan ddylanwad y Barthiaid, sef Bultmann a Joachim Jeremias, geisio atal y dirywiad hwn mewn rhan.