Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O Lafur ei Enaid y Gwêl." Hwyr y dydd, Rhagfyr 12, 1957, digwyddwn ddarllen testun Hebraeg dyrys Eseia liii, 11, a sylwi yn adnod 11 fod Sgroliau'r Môr Marw yn cynnwys y gair "goleuni" fel gwrthrych y ferf "gwel." Teimlaswn cyn hynny fod y frawddeg O lafur ei enaid y gwêl" rywfodd yn anghyflawn, ac yn gofyn gwrthrych i'r ferf. Gweld beth ? Troais i ddechrau at gyfieithiad yr Esgob Morgan (1588), a gweld iddo ef sylweddoli bod y ferf "gwêl" heb wrthrych, gan gyfieithu fel hyn: "0 lafur ei enaid y gwêl [ffrwyth, ac] y diwellir." Ni wn ar ba sail neu dystiolaeth y cafodd Morgan hyd i'r gair ffrwyth i lenwi'r bwlch. Sut bynnag, yr oedd Morgan yn sicr ar drywydd y gair coll. Wedyn troais at destun y LXX (Codex AIexandrinus), a gweld mai'r gair "goleuni" sy'n wrthrych y ferf yno, eithr yn ei ffurf weithredol (transitwe), h.y., "dangos, peri gweled," sef "i ddangos iddo oleuni." Cysylltir y cymal hwn yn nhestun y LXX â diwedd yr adnod flaenorol (10), gan ddarllen "A'r Arglwydd a ewyllysia gymryd ymaith (ef) oddi wrth lafur ei enaid," ac yn cychwyn adnod 11 â'r frawddeg "i ddangos iddo oleuni," etc. Yn Hebraeg testun Kittel, awgrymir mewn nodiad y gair "goleuni" gan gyfeirio at y testun Groeg. Wrth weld bod y gair "goleuni" i mewn fel gwrthrych i'r ferf gwêl yn nhestun Sgroliau'r Môr Marw yn Eseia, ni allwn lai na meddwl fod y gair iawn yno yn ei le iawn, yn gweddu i'r dim, ac yn coroni "llafur enaid" y Gwas dioddefus. "O lafur ei enaid y gwêl oleuni." Trwy dwnel tywyll "llafur enaid," gwêl olenni draw yn tywynnu arno. Enynnodd y cwbl hyn feddyliau ynof a redodd yn syth ac annisgwyl i ffurf emyn yn lIe pregeth, ac ar fesur nad oedd imi ddewis yn ei gylch ond ei dderbyn fel y llifai yn y blaen ohono ei hun megis. Syllais yn hir ar y tri phennill oedd bellach o'm blaen mewn pensil-emyn a ddaeth imi o'r anwel ar fyr dro yn ddigymell.