Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Teiffws yng Nghymru. GANRIF yn ôl byddai rhyw fil o bobl yng Nghymru yn marw o afiechyd y teiffws ("typhus") bob blwyddyn, ond yr oedd yr hen haint eisoes yn colli ei dir yn gyflym y pryd hynny, a chyn troad y ganrif hon yr oedd i bob pwrpas wedi ei ddifodi'n llwyr o'r wlad. Afiechyd tlodi a newyn a fu'r teiffws erioed, afiechyd byddinoedd a charchardai haint hen longau môr a hofelydd hen drefi; cyffelyb ydoedd i'r geri a'r pla yn hyn o beth, gan mai aflendid oedd ei gynorthwywr parod yntau. Erys rhai parthau o'r byd yn gyfarwydd â'r teiffws heintus o hyd-Deau America, er enghraifft, y Dwyrain Canol, ac yn enwedig China a'r India. Ond aeth cenedlaethau heibio yng Nghymru heb brofiad o gwbl ohono, aeth ei arswyd i ebargofiant, a chiliodd fel yr hen heint- iau mawrion eraill i fyd hanes. Eithaf peth, er hynny, yw bwrw golwg ar yr hyn a gyflawnodd yma yn ei anterth gynt. Perthyn trychfilod arbennig y teiffws heintus i deulu'r Ricket- tsia, sef sylweddau bychain rhwng bacteriwm a feirws mewn maint; trosglwyddir hwy-y Rickettsia prozvazeki — o glaf i glaf gan lau. Cludir trychfilod y teiffws diniweitiach, endemig, sef R. mooseri, gan chwain llygod mawr. Afraid pwysleisio, felly, mai ar fudreddi y ffynna'r teiffws. Wedi i'r rickettsia redeg trwy'r gwaed amlyga'r afiechyd ei hun yn ebrwydd gyda chryndod yn y corff a chur cynyddol yn y pen. Yna cwyna'r claf o ddolur yn y gwddf, a daw peth peswch hefyd. Daw cochni i'r wyneb fel y cynydda'r llid, ac yna try gwyn y llygad yn goch. Yn ddiweddarach cyfyd brech ar y corff a chwyddiadau amlwg hefyd. Yn y man goddiweddir y claf gan bryder meddyliol, a daw ambell bwl o wallgofrwydd o dro i dro; yna llithra i ryw syrthni sy'n nodweddiadol o'r afiech- yd, a phery yn y cyflwr hwnnw am rai dyddiau. Os llwydda'r claf i oresgyn ei afiechyd, daw iddo adnewyddiad sydyn­-fel pe tynnid gorchudd yr afiechyd oddi arno. Dro arall nid yw'r syrthni meddyliol namyn rhagflaenor o'r farwolaeth sydd fel pe'n ddistaw adfeilio ei gorff.