Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i gyd, wrth eu gwaith ac wrth eu haddoliad. Y mae'n cyfrannu yn eu cariad tuag at eu gwlad hynafol, gyda'i heglwysi a'i mynwentydd, ei seintiau a'i pardonau, ei bwganod a'i hofergoel- ion. Y mae'n teimlo ei hunan yr hiraeth sydd yng nghalon pob Llydawr am ei fro enedigol, am ddychwelyd a marw yno. Y mae'n gwrando'n astud ar gyffes ei frawd Yves: "Mi gredaf mai draw yn Plouherzel y byddaf yn dychwelyd yn fy henaint, a gorwedd wrth ochr capel Kergrist-yr hen gapel y darfu i mi ei ddangos i chwi unwaith. Ie, debyg iawn, yn y lle hwnnw y byddaf yn cael fy ngorweddfa olaf." Wrth gwrs yr oedd yn gwybod yn iawn am agweddau truen- us bywyd mewn llefydd fel porthladd Brest. Yr oedd yn adnabod yn iawn yr hen dref lwyd honno, tref gul a llwm, gyda'i dociau budr a muriau uchel o wenithfaen llaith. Nid anhysbys iddo oedd y puteindai a'r tafarnau lle yr oedd morwyr yn afradloni eu henillion ar ôl misoedd o garchar ar y môr. Nid anhysbys iddo chwaith y ffosydd tywyll lle'r âi gwragedd i chwilio am eu gwyr meddwon. O ie, yr oedd yn gwybod yn drwyadl am yr holl drueni. Ac eto i gyd, iddo ef fel i bob morwr, yr oedd Brest yn 'hafan deg er gwaethaf y llu yma o demtasiynau. Cymaint o weithiau yr oedd calon y morwr wedi llamu wrth weld arwyddion Brest yn agosáu Y llawenydd o rowndio pen- rhyn Penmarch, a hwylio trwy sianel Toulinguets nes cyrraedd yr angorfa ddisgwyliedig! Yna, gweld y bysedd cadno yn blodeuo hyd yn oed yn yr heolydd di-haul, a breuddwydio am wlad brydferth Leon tu draw! Cymaint o weithiau y bu i'r llongwyr ganu yn eu siantis am Leon hen, a chlochdy uchel Creizker ar.y gorwel pell: Llanc o Ffinister wyf fi, Ac yn St. Pol y ganwyd fi Yng nghysgod y clochdy harddaf sydd, Ein Creizker teg yn Leon rhydd. Ac y'n amgylchynu popeth yr oedd y môr, y môr holl-bresen- nol, môr gwyrdd Armorica, mor seintiau Llydaw, yn ymestyn yn ddidor tua'r gorllewin, ac yn hudo heddiw megis cynt y rhai sydd yn breuddwydio am yr Ynysoedd Bendigedig. Ar y môr hwn aeth Brendan ar ei hynt. Heddiw dyma'r môr sy'n cwm-