Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wrth Edrych yn 61 ac ymlaen. Paham yr wyf yn sefyll i siarad yma heddiw ? Cwestiwn eithaf teg, ar wahan i'r ffaith mai gwahoddiad caredig y Cyngor a'r Pwyllgor Gwaith roddodd yr hawl a'r fraint imi. Yr wyf yma, hyd y gwelaf, am ddau reswm yn unig. Yn gyntaf, yr wyf yn cynrychioli tô o feddygon Cymreig; bu bron i mi ddweud tô ifanc, ond ysywaeth prin y mae hynny'n wir bellach. Yr oedd nifer go dda ohonom yn efrydwyr yr un amser, neu o fewn cylch o ychydig flynyddoedd, beth bynnag, ond y mae'n rhaid dweud erbyn hyn am bron bob un, Ymdaenodd pen- wynni drosto, ac ni wybu efe." Y mae traddodiad meddygol grymus yng Nghymru ers canrifoedd, ond fe dybiaf fod ei naws drwyadl Gymreig wedi cynyddu a chryfhau yn amlwg iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae tô o feddyg- on gwir Gymreig­Cymry twymgalon ac eiddgar, er bod nifer ohonynt yn gorfod dilyn eu galwedigaeth dros y ffin. Teimlaf yn llawen iawn fy mod yn cael y fraint o gynrychioli fy nghyf- eillion meddygol. Yn ail, yr wyf yma fel un o fechgyn Dosbarth Gwyrfai, un o "hogia' 'lâd o'u cyferbynnu д chofis bach y Dre"; fel un o hogiau'r Waunfawr, gyda thipyn go lew o waed Clynnog ac Aberdaron yn fy ngwythiennau. Ni all neb sefyll ar Faes yr Eisteddfod eleni heb "ddyrchafu ei lygaid i'r mynyddoedd," ac yna fe wêl ardal y Waunfawr yn ymestyn o'i flaen megis cwrlid tonnog amryliw. Dyma olygfa sy'n siwr o agor fflodiart y cof i lawer, ond pethau anhydrin yw atgofion ac y mae'r gwaith o'u cadw dan reolaeth yn debyg iawn i'r ymdrec'h o wneud llwyth gwair destlus ar ddiwrnod gwyntog yn yr haf. Rhaid i mi gyfaddef y bûm yn hanner gobeithio mai yn yr hen bafiliwn y cynhelid yr Eisteddfod, a hynny am resymau teimladol ac atgofus yn unig. Mae'n amlwg ddigon fod yr adeilad yma yn amgenach o lawer, ac yn fwy addas a hwylus ymhob ffordd. Ond cofio yr oeddwn am y Cymanfaoedd Canu yn yr hen bafiliwn­diwrnod mawr y flwydd- *Anerchiad o Gadair Eisteddfod Caernarfon a Dosbarth Gwyrfai, Awst 6, 1959, wedi ei helaethu.