Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gormod; fel meddyg gwelaf, yn aml ddigon, gleifion sydd yn mwynhau bod yn wael, eu hapusrwydd yw teimlo "yn reit dila." Nid yw'r bobl yma yn ddiddig heb anwesu rhyw fath o anhwyl- deb, ac fel rheol y maent oll yn byw hoedran teg! Mae perygl i genedl gyfan fyw-neu hanner byw­yn y cyflwr cwynfanllyd hwn. Ar y llaw arall, fel meddyg eto, gwelais gleifion yn marw, nid oherwydd gerwinder eu salwch ond oblegid diffyg awydd a phenderfyniad i wneud yr ymdrech i fyw; ac fe all hyn, sydd mor wir am y claf unigol, ddigwydd yn hanes cenedl. Ond er cymaint ein cyfyngder fel Cymry yr wyf yn parhau yn hyderus, gan gredu gyda Robert ap Gwilym Ddu: Am y dyfodol, beth a ddywedaf ? Ni allaf wneud yn well na dyfynnu (wedi newid un gair yn unig) emyn Williams, Panty- celyn Llansannan a Lerpwl. Ni fyn Duw o fewn y daith Droi neb i dir anobaith." Wel, Gymru, dos ymlaen, 'D yw'r bryniau sydd gerllaw Un gronyn uwch, un gronyn mwy, Na hwy a gwrddaist draw: Dy anghrediniaeth gaeth A'th ofnau maith eu rhi', Sy'n peri it feddwl rhwystrau ddaw Yn fwy na rhwystrau fu. EMYR WYN JONES.