Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

breuddwyd mewn llenyddiaeth a barddoniaeth. Yn wir y mae trysorau mwyaf gwerthfawr gwlad a chenedl mewn llenydd- iaeth a chelfyddyd wedi eu geni mewn breuddwyd, ac o'r braidd yr ysgrifennwyd barddoniaeth fawr neu epic glasurol neu ystori heb fod ynddi rhywbeth yn ymwneud â breuddwyd. Nid yn unig derbynnir y neges drwy freuddwyd, ond fe ddefnyddir breuddwyd i wahanol ddibenion mewn llenyddiaeth. Defnyddia Miltwn freuddwyd er portreadu bywyd ei hunan yn "Satan." Felly Marlowe a Goethe yn eu hymwneud â Mephistopheles. Defnyddia Shakespeare y gair breuddwyd dros gant a hanner o weithiau, ac yn aml amrywia'r ystyr, felly hefyd am Shelley a Thennyson. Fel cymhariaeth y mae'r freuddwyd yn gymorth mawr, a defnyddir hi felly mewn ffordd urddasol a mawreddog yn yr Hen Destament. Eseia a ddywed, "Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel fel breuddwyd gweledigaeth nos ie bydd megis newynog a freuddwydio (Eseia xxix, 7 — 8.) Job a ddywed, Efe a eheda ymaith fel breuddwyd ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos (Job xx, 8). Gwnaethpwyd defnydd helaeth o freuddwyd gan wahanol ysgrifenwyr, rhai yn athronyddol, eraill yn ddych- mygol a ffansiol. Y mae gweithiau Hazlitt yn enghraifft o'r cyntaf a Lamb o'r olaf. Fel moddion i ddweud stori y mae'r freuddwyd yn ddi-guro fel y dengys "Alice in Wonderland." Rhydd dull y breuddwyd fwy o drwydded i ddyn i ramantu a dychmygu na'r dull cyffredin a geir, er enghraifft, yn The Decameron a Canterbury Tales, er nad ydynt o'r un gwerth hanesyddol, ond lles meddyliol ac ysbrydol weithiau yw camu allan o'r hanesyddol a'r real, i ymgolli ym myd dychymyg. Y mae llawer o bethau dyrys wedi eu dehongli a'u gweithio allan mewn breuddwyd. Ceir sôn am ddynion wedi gwneuthur rhyfeddodau mewn rhifyddeg yn eu cwsg, a cheir gweithiau barddonol wedi- eu cyfansoddi mewn breuddwyd. Dyna yw gwaith clasurol Kubla Khan, a hefyd waith Benson The Phoenix, fel y dywed ef yn ei eiriau ei hun, I dreamt the whole poem in a dr.eam and wrote it down in the middle of the night on a scrap of paper by my bedside and written in a style which I have never attempted before or since."