Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn llenyddiaeth Gymraeg rhoddir lle mawr i freuddwyd. O blith y gweithiau cynnar ceir Breuddwyd Rhonabwy," Breuddwyd Maxen," Breuddwyd Sion Tudur," a "Breudd- wyd Gruffydd ab Adda ab Dafydd." Yn Llyfr Du Caerfyrddin ceir o leiaf un freuddwyd. Canodd rhai o'r Gogynfeirdd ar ddull breuddwyd, a cheir un gân ar ffurf breuddwyd gan Walch- mai ap Meilyr, a gwneir defnydd helaeth o'r cyfrwng hwn o hyd mewn llenyddiaeth Gymraeg. A oes gan ddyn ran o gwbl mewn penderfynu natur ei freuddwydion ? Dywedasom ar y dechrau yr ysbrydolir dyn drwy freuddwyd neu weledigaeth, ac y daw honno megis yn anymwybodol i'r person. Ond eto credwn fod perthynas agos rhwng y freuddwyd a chyflwr ymwybodol dyn. Yr hyn yw dyn yn ei gyflwr ymwybodol sydd yn rhoddi cyfeiriad i'w freuddwyd. Gofidiai'r proffwyd oherwydd cyflwr anfoesol y bobl. Yn y cyflwr meddyliol hwn hawdd oedd derbyn argraffiadau, a chaffai Duw gyfle i gyflwyno'r feddyginiaeth drwy'r proffwyd. Tebyg y gellir rhoddi esboniad naturiol i lawer o freuddwyd- ion y Beibl. Efallai mai diffyg gorlifiad yn yr afon Neil a barodd i Pharo freuddwydio am y saith mlynedd newyn. Mae'n bosibl mai llid Herod, y gwyddai Joseff yn dda amdano, a barodd iddo freuddwydio'r gorchymyn i gilio i'r Aifft. Diau y gellid dweud am lawer o freuddwydion "o'r drwg y mae," ond ar y llaw arall rhaid cydnabod y medr dyn dderbyn datguddiadau o fwriadau Duw fydd yn arweiniad i'w fywyd drwy freuddwyd. Yn aml gwêl dyn y gwaethaf a'r gorau ynddo yn ei freuddwyd, a gwyn fyd y dyn fedr ddeall arwyddion ei freuddwyd. J. TREFOR LLOYD. Llanbcdr Pont Steffan.