Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanner Canmlwyddiant Undeb Athrofa'r Bala. Cychwyn y Cofnodion yn foel fel hyn: Cynhaliwyd cyfar- fod o gyn-fyfyrwyr yr Athrofa yn Llyfrgell Dr. Owen Thomas, dydd Iau, Gorffennaf laf, 1909, am 2.45 p.m. Daeth ynghyd liaws o hen fyfyrwyr, gweinidogion yn bennaf, a rhai lleygwyr; hefyd athrawon y Coleg, ac amryw aelodau o'r Cyfeisteddfod." I feddwl pwy y daeth y syniad gyntaf am Undeb y cyn- Fyfyrwyr," ni ddywedir. Dyfalwn iddo ddyfod o'r Alban drwy rai a fu yn ei Golegau ac, nid hwyrach, a oedd yn y Bala ar y pryd. Cyfeirir unwaith neu ddwy at New College (Edin burgh). Cyfarfu'r "lliaws hen gyn-fyfyrwyr ar ddiwedd tymor Coleg y Bala-adeg gyfleus i gael cynulliad. Dyfynnwn y Cofnodion: I. Dewiswyd Mr. J. R. Davies, M.A., Ceris, Llywydd y Cyfeisteddfod, yn gadeirydd y cyfarfod. [Ef yn wyr i'r Hybarch Henry Rees.] 2. Cynhygiwyd gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a chefnogwyd gan y Parch. Benjamin Hughes, Llanelwy, mai dymunol ydyw ffurfio Cymdeithas o Efrydwyr blaenorol Athro- fa y Bala, a phasiwyd hyn yn unfrydol. 3. Cynhygiwyd gan Mr. Henry Lewis, Bangor, a chefnog- wyd gan y Parch. Ellis James Jones, M.A., Rhyl, a phasiwyd yn unfrydol mai amcanion y Gymdeithas fydd (a) Cadw efrydwyr blaenorol yr Athrofa mewn cysylltiad a'u gilydd ac a'r Athrofa. (b) Hyrwyddo llwyddiant yr Athrofa. (c) Diwylliant ysbrydol a duwinyddol ymhlith yr aelodau ac yn y wlad yn gyffredinol. 4. Cynhygiwyd gan y Parch. John Owen, Anfield, a chefn- ogwyd gan y Parch. J. Pryce Davies, M.A., a phasiwyd yn un- frydol fod aelodaeth yn agored i bob efrydydd a chyn-efrydydd o'r Athrofa, yn gystal ag athrawon yr Athrofa, ynghyd ag un- rhyw un ychwanegir trwy bleidlais ddirgel. 5. Penderfynwyd fod saith o frodyr, yn ychwanegol at Senedd yr Athrofa, i'w dewis i fod yn Bwyllgor Gweithiol.